Newyddion S4C

P Diddy yn wynebu 120 o gyhuddiadau o gamdriniaeth rywiol

02/10/2024
P Diddy

Mae’r rapiwr a’r dyn busnes Sean Combs erbyn hyn yn wynebu 120 o gyhuddiadau yn ei erbyn yn ymwneud â thrais rhywiol. 

Ymhlith y cyhuddiadau yn erbyn y rapiwr, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel P Diddy neu Puff Daddy mae masnachu ar gyfer rhyw (‘sex trafficking’).  

Mewn cynhadledd i’r wasg nos Fawrth fe ddywedodd cyfreithiwr fod 60 o’r cyhuddiadau newydd yn ei erbyn gan fenywod a 60 gan ddynion. 

Dywedodd Tony Buzbee, sydd yn eu cynrychioli, fod 25 ohonynt yn blant ar adeg y troseddau honedig. 

Beth yw’r cyhuddiadau yn erbyn P Diddy? 

Mae P Diddy, 54 oed, yn wynebu tri chuddiad penodol yn ymwneud a chamdriniaeth rywiol yn ei erbyn, yn ôl llys yn Efrog Newydd. 

Mae'r rheina’n cynnwys: 

  • Cyfres o droseddau anghyfreithlon sydd yn ymddangos yn gyfreithiol er mwyn gallu elwa’n fasnachol, sef ‘racketeering
  • Masnachu ar gyfer rhyw drwy orfodaeth neu dwyll
  • Teithio er mwyn cymryd rhan mewn puteindra 

Mae’n wynebu posibilrwydd o ddedfryd oes yn y carchar gyda’r cyntaf o’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ac o leiaf 15 o flynyddoedd yn y carchar am yr ail. Fe allai dreulio hyd at 10 mlynedd yn y carchar am deithio ar gyfer puteindra hefyd. 

Dywed y cyhuddiadau ei fod wedi “cam-drin, bygwth, a gorfodi menywod ac eraill o'i gwmpas i gyflawni ei chwantau rhywiol” gan barhau i amddiffyn ei enw da.  

Image
P Diddy
P Diddy yng Ngwobrau Cerddoriaeth Fideo MTV yn 2023

Gwadu

Fe gafodd P Diddy ei arestio yng ngwesty yn Efrog Newydd Medi 16 eleni. 

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yn Brooklyn wedi iddo bledio’n ddieuog i’r tri chyhuddiad yn ei erbyn. Cafodd ei gais $50m (£37.8) am fechnïaeth ei wrthod. 

Ag yntau bellach yn wynebu 120 o gyhuddiadau yn ei erbyn, mae llefarydd ar ei ran wedi dweud nad oes modd rhoi sylw “i bob honiad di-werth mewn syrcas gyfryngau.”

Ond ychwanegodd ei fod yn gwadu unrhyw honiad ei fod wedi camdrin unrhyw un yn rhywiol, gan gynnwys plant. 

“Mae’n edrych ymlaen at brofi ei fod yn ddieuog,” meddai. 

Image
P Diddy
P Diddy a Cassie Ventura

Ond pwy yw P Diddy? 

Fe ddaeth Sean Combs yn rapiwr adnabyddus yn ystod yr 1990au ac mae wedi ennill tair gwobr Grammy. 

Fe sefydlodd ei gwmni recordio Bad Boy Records yn 1993 ac mae’n cael ei adnabod fel un o gewri’r byd hip-hop.

Nid dyma yw’r tro cyntaf i P Diddy wynebu cyhuddiadau yn ymwneud a thrais rhywiol yn ei erbyn. 

Roedd ei gyn-bartner, y gantores Cassie Ventura, wedi honni ei bod wedi dioddef dros ddegawd o gamdriniaeth – gan gynnwys iddi hi gael ei masnachu ar gyfer rhyw a chael ei threisio.

Daeth yr achos cyfreithiol hwnnw i ben wedi i’r gantores cytuno setlo am swm o arian, na chafodd ei ddatgelu. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.