Newyddion S4C

'Mi fyddwn ni yn dial' meddai Netanyahu

02/10/2024
Benjamin Netanyahu

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu wedi dweud y bydd Iran "yn talu'r pris" am danio taflegrau tuag at y wlad nos Fawrth. 

Dywedodd Netanyahu bod y wlad "wedi gwneud camgymeriad enfawr" ac nad ydynt yn deall "pa mor benderfynol" yw" Israel i "ddial" yn erbyn ei gelynion. 

"Mi fyddan nhw yn deall. Rydyn ni yn glynu wrth y rheol- pwy bynnag sydd yn ymosod arnom ni, rydyn ni yn ymosod yn ôl," meddai. 

Fe daflodd Iran tua 180 o daflegrau at ddinasoedd Israel. 

Y rheswm meddan nhw oedd er mwyn dial am lofruddiaeth arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh ag arweinydd Hezbollah, Hassan Nasrallah.

Cafodd mwyafrif y taflegrau eu hatal gan Israel a'i chynghreiriaid. 

Ddydd Mawrth fe aeth byddin Israel i mewn i dde Libanus. Roeddent yn cynnal "cyrchoedd cyfyngedig ar dargedau penodol" Hezbollah mewn pentrefi yn agos at y ffin medden nhw. 

Mae'r Cenhedloedd Unedig a'r Undeb Ewropeaidd wedi dweud eto bod angen cadoediad. 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.