‘Posibilrwydd cryf’ y bydd ysgol yn cau ei holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol
Mae pennaeth ysgol uwchradd yng Nghaerdydd wedi dweud bod yna “bosibilrwydd cryf” y bydd yr ysgol yn cau ei holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn y dyfodol.
Dywedodd Matthew Evans bod Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn adolygu ei defnydd o gyfryngau cymdeithasol yn dilyn “twf mewn syniadaeth casineb”.
Daw ar ôl i’r ysgol gyhoeddi ddydd Llun ei bod yn cau ei chyfri ar X ddiwedd mis Hydref oherwydd bod staff wedi bod yn “anghysurus” am y llwyfan.
“Mae staff wedi bod yn anghysurus am X ers cyn yr haf, gyda thwf mewn syniadaeth casineb a hiliaeth yn benodol,” meddai.
Mae llwyfan X yn cael ei weld fel un dadleuol ers i'r dyn busnes Elon Musk brynu'r wefan yn 2022. Ers hynny mae unigolion sydd yn cael eu gweld fel eithafwyr wedi cael hawl i ddefnyddio'r wefan unwaith eto. Mae Mr Musk ei hun hefyd wedi gwneud sylwadau dadleuol am amryw o bynciau.
Yn ôl Mr Evans, terfysgoedd casineb yn Lloegr dros yr haf oedd yn gyfrifol am waethygu'r sefyllfa.
“Mae plant a phobl ifanc wedi cael eu llusgo mewn i syniadau casineb a hiliol difrifol ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan o hynny,” meddai.
“Hyd yn oed wrth i staff edrych ar lif yr ysgol, roedden nhw'n dod ar draws y syniadau.”
Yn sgil pryderon fe wnaeth athrawon gyfarfod gyda chorff llywodraethol yr ysgol, gan gytuno’n “unfrydol” bod yn rhaid cau ei chyfri X.
'Gwell byw yn y byd real'
Bydd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn symud i Instagram – ond mae Mr Evans yn dweud nad yw’r llwyfan heb ei broblemau.
“Dyw Instagram ddim yn wych, mae problemau yno hefyd,” meddai.
“Da ni’n cadw fe dan adolygiad ac efallai’n wir byddwn yn tynnu’n ôl o bob llwyfan cymdeithasol.
“Ond roedd 'na deimlad ymhlith llywodraethwyr bod angen i’n disgyblion weld bod yr ysgol yn anghysurus a bod ni’n deud, ‘Da chi’n gwybod be, dydi hwn ddim yn iawn’, a bod ni’n gwneud datganiad o’r fath yn hytrach na stopio defnyddio’r llwyfan yn unig.”
Dywedodd Mr Evans ei fod yn flin i golli cysylltiad gyda rhai aelodau o’r gymuned.
“Roedd ganddo ni dros 5,000 o ddilynwyr ar X a ‘da ni’n flin bod ni’n colli cysylltiad gyda nhw,” meddai.
“Yn y pen draw, falle bydde ni’n dweud bod y cyfryngau cymdeithasol ddim yn llefydd gwych i fyw a bod o’n well byw yn y byd real.
“Ond am y tro, roedden ni’n teimlo’n bur anghysurus ar y llwyfan yma.”
Ychwanegodd: “Mae ‘na bosibilrwydd eithaf cryf y byddwn yn cau ein holl gyfrifon yn y dyfodol.
“Mae ‘na fwy o rieni yn ystyried peidio rhoi caniatâd i rannu lluniau plant, felly mae 'na faterion mwy i ystyried yma.”
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am sylw gan X.