Newyddion S4C

Galw ar Gyngor Gwynedd i beidio parhau i dalu Ystad y Goron

01/10/2024
Dewi Jones

Mae yna alw ar Gyngor Gwynedd i beidio parhau i dalu Ystad y Goron nes bod trafodaethau’n dechrau ar ddatganoli’r cyfrifoldeb dros hynny. 

Y llynedd fe dalodd Cyngor Gwynedd dros £160,000 i Ystad y Goron er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael mynediad i dir yn y sir. 

Bydd grŵp o gynghorwyr yn cyflwyno cynnig i’r cyngor ddydd Iau, gan ddadlau ei bod yn “anfoesol” parhau i dalu yn sgil pwysau ariannol mawr.

Mae Ystad y Goron yn dweud eu bod nhw’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol i Gymru.

Y Cynghorydd Dewi Jones o ward Peblig, Caernarfon, sy’n arwain y cynnig. 

“Pob blwyddyn ‘da ni’n rhoi oddeutu £160,000 i Ystad y Goron er mwyn gallu cael mynediad i’n traethau, a mannau eraill o amgylch y sir,” meddai.

"I ni, cyngor sir sydd wedi gweld ein cyllideb yn cael ei dorri pob blwyddyn yn nhermau real mae hwnna’n eithaf anfoesol dwi’n meddwl. 

"Yn enwedig wrth i ni wynebu toriadau pellach i wasanaethau wrth i elw Ystad y Goron mwy na dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf.” 

Ychwanegodd: “Dwi’n teimlo’n gryf y dylwn ni atal y taliadau yma am y tro a dechrau sgwrs go iawn am ddatganoli rheolaeth tir, a’r elw sy’n dod oddi wrthyn nhw i Lywodraeth Cymru.”

'Siom'

Mae’r pris mae Cyngor Gwynedd yn talu Ystad y Goron i sicrhau mynediad cyhoeddus at rannau o arfordir y sir yn amrywio. 

Ym Mangor mae’r gost leiaf, sef £35 y flwyddyn i ganiatáu mynediad i flaen traeth y ddinas. 

Ym Mhwllheli mae’r gost fwyaf, £144,000 y flwyddyn ar gyfer sicrhau mynediad i ardal yr hafan.

Disgrifiodd Dylan Llewelyn, sy’n enedigol o’r dref, y drefn fel “siom”. 

“Pan mae rhywun yn edrych o gwmpas Pwllheli a llawer o drefi eraill mae rhywun yn meddwl, tybed fysa’r arian yna yn gallu bod o ddefnydd i’r gymuned leol? A'r ateb ydy bysa, byddwn ni’n gallu elwa ohono fo. Mae’n bechod bod yr arian yn diflannu o yma,” meddai.

Image
Dylan Llywelyn
Yn ôl Dylan Llewelyn o Bwllheli, mae'r drefn yn “siom”

Nid pawb sy’n cytuno, symudodd Pam Parry i Bwllheli dros 40 mlynedd yn ôl.

“Mae Ystâd y Goron yn berchen ar dipyn o dir, ond bod ni’n gwneud y defnydd gorau o’r tir yna dwi’n meddwl bod popeth yn iawn. Mae fel talu rhent yndy, weithiau mae angen iddyn nhw wneud arian er mwyn buddsoddi arian,” meddai.

 

Beth yw Ystâd y Goron?

Mae gwerth dros £603 miliwn o dir ar draws Cymru ym meddiant y goron. 

Mae hynny’n cynnwys: 

65% o arfordir Cymru 

Hyd at 12 milltir oddi ar y tir a gwelyau afonydd

50,000 erw o dir

250,000 erw o dir mwynol

Unrhyw aur ac arian sy’n cael ei ddarganfod

 

“Ystâd y goron yw’r tiroedd sy’n eiddo i’r goron – nid i unrhyw frenin neu frenhines yn bersonol,” meddai’r hanesydd Dr Elin Jones.

“Mae’r incwm sy’n dod o’r tir yna yng Nghymru a Lloegr yn mynd tuag at gynnal y Goron a Llywodraeth y Deyrnas Unedig – ac mae canran ohono yn mynd i gynnal y teulu brenhinol yn uniongyrchol,” meddai.

Mae rhan o’r cynnig sy’n cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ddydd Iau yn galw am ddatganoli rheolaeth tiroedd Ystad y Goron, a’r elw sy’n dod oddi wrthyn nhw i Lywodraeth Cymru. 

Ond mae’r cynnig yn ddadleuol, yn ôl yr Aelod o'r Senedd dros orllewin Caerfyrddin a de Sir Benfro Samuel Kurtz. 

“Pan dwi’n siarad â chwmnïau sydd am ddod mewn i Gymru – i fuddsoddi mewn diwydiant gwyrdd – dydyn nhw ddim yn sôn am ddatganoli Ystad y Goron,” meddai.

"Maen nhw’n sôn am gynllunio a shwt allwn ni gyflawni cynllunio yng Nghymru – dod â mwy o bobl gyda sgiliau ychwanegol sydd ei angen yn y diwydiant newydd. Dydyn nhw ddim yn siarad am ddatganoli Ystad y Goron."

Mewn ymateb i gynnig cynghorwyr Gwynedd dywedodd llefarydd ar ran Ystad y Goron eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod nhw’n creu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol, nawr ac yn y tymor hir.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.