Iran yn tanio taflegrau tuag at ddinasoedd Israel
Iran yn tanio taflegrau tuag at ddinasoedd Israel
Mae Iran wedi tanio taflegrau tuag at ddinasoedd yn Israel nos Fawrth, wrth i'r awdurdodau yno gynghori pobl i ffoi i fannau diogel.
Mae sianel deledu yn Iran sy'n cael ei rhedeg gan y wladwriaeth wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau bod "dwsinau" o daflegrau wedi eu tanio tuag at Israel.
Yn ôl yr adroddiadau diweddaraf, cafodd 180 o daflegrau eu tanio o Iran tuag at Israel
Mae'r awdurdodau yn bygwth ymosod eto, pe bai Israel yn ymateb.
Yn ôl Iran, maen nhw wedi ymosod er mwyn dial am lofruddiaeth arweinydd Hamas, Ismail Haniyeh fis Gorffennaf yn ogystal ag arweinydd Hezbollah, Hassan Nasrallah ddydd Gwener diwethaf.
Maen nhw hefyd yn dweud iddyn nhw ymosod am fod pobl Palesteinaidd a thrigolion Libanus wedi eu lladd gan yr Israeliaid.
Mae taflegrau wedi eu gweld yn disgyn yn Tel Aviv, Jerwsalem ac ardaloedd yng ngogledd Israel.
Mae'r gwasanaethau brys wedi eu hanfon i sawl safle yn Israel ond does dim adroddiadau hyd yn hyn fod unrhyw un wedi ei anafu.
Mae'r awdurdodau yn Israel bellach wedi dweud wrth bobl bod modd iddyn nhw adael eu llochesi, gan ei bod hi'n ymddangos fod yr ymosodiadau wedi dod i ben.
Mewn cynhadledd newyddion nos Fawrth, cyhoeddodd y Tŷ Gwyn nad yw'r sefyllfa yn gwbwl glir ond ei bod yn ymddangos nad oedd ymosodiad Iran yn "effeithiol".
Mae byddin Israel wedi dweud bod hwn yn ymosodiad difrifol ac y bydd "canlyniadau".
Yn y cyfamser, mae adroddiadau fod dynion arfog wedi saethu o leiaf chwech o bobl yn farw ar stryd yn Tel Aviv yn fuan cyn i daflegrau Iran lanio yn y ddinas.
Mae'n ymddangos fod o leiaf saith yn rhagor wedi eu hanafu a nifer mewn cyflwr difrifol.
Yn ôl yr heddlu, roedd hwn yn ymosodiad terfysgol, ac mae'r ddau ddyn arfog wedi eu saethu'n farw.
Llun: Hazem Bader / AFP