Canolfan ganser newydd - y gyntaf o'i fath i'r gogledd
Canolfan ganser newydd - y gyntaf o'i fath i'r gogledd
Mae elusen ganser yn gobeithio cynnig cefnogaeth i “ddegau o filoedd o gleifion” wrth agor canolfan newydd- y gyntaf i Ogledd Cymru.
Mae’r gwaith wedi dechrau ar safle Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan i adeiladu canolfan Maggie’s, sef elusen sydd yn cynnig cefnogaeth o bob math i gleifion canser.
O gynnig cyngor meddygol a chymorth seicolegol, i gynnal sesiynau sgiliau colur a rhoi cyngor ariannol am fudd-daliadau, fe allai cleifion â chanser gerdded i mewn i'r ganolfan heb apwyntiad a derbyn cymorth y tu allan i amgylchedd meddygol.
Mae gan yr elusen, sydd wedi ei henwi ar ôl yr Albanes Maggie Keswick Jencks, ganolfannau ar draws y DU. Mae yna rhai yng Nghaerdydd ac Abertawe ond fydd y gyntaf i gael ei hadeiladu yn y gogledd.
Yn Clatterbridge yng Nghilgwri mae’r ganolfan agosaf i gleifion yn yr ardal ar hyn o bryd. Mae disgwyl y bydd y ganolfan newydd ym Modelwyddan yn agor ei drysau cyn diwedd 2025.
Un person sydd wedi teithio ar draws y ffin a chael budd o wasanaethau'r elusen yw Samantha Price, o Fwcle yn Sir y Fflint.
Yn 29 mlwydd oed, fe wnaeth Samantha deimlo poen yn ei brest fis Gorffennaf yn llynedd. Ar ôl bod yn codi pwysau yn y gampfa, roedd hi wedi amau mai’r ymarfer corff oedd achos y boen.
Ond ychydig ddyddiau’n ddiweddarach yn dilyn profion yn Ysbyty’r Countess of Chester yng Nghaer, fe gafodd ddiagnosis o ganser y fron.
“Yn anffodus, roedd hwn yn un o’r mathau mwyaf aggressive o ganser,” dywedodd Samantha wrth siarad â Newyddion S4C.
“I fi yn bersonol, roedd o fel profiad tu allan i ‘nghorff. Ti’n cael y diagnosis, ti mewn apwyntiadau, triniaeth, mwy o apwyntiadau.
“Dwyt ti ddim yn cael amser i brosesu be sy’n digwydd i ti. Ond ar ôl cael y llawdriniaeth, nes i stopio cael cemotherapi ac mae pethau’n distewi, felly dyna pa bryd nath popeth fy nharo i.”
'Ddim yn teimlo yn feminine'
Roedd y canser wedi ymledu i wal y fron gyda’r bygythiad y byddai yn ymledu i rannau eraill o’r corff. Roedd Samantha mewn sefyllfa lle nad oedd “unrhyw ddewis” ond cael masectomi, sef triniaeth i dynnu ei bronnau.
“Ar ôl y llawdriniaeth, ro’n i’n teimlo fel bod y rhan o fy nghorff o’n i’n ystyried yn feminine, wedi ei gymryd gen i. Doeddwn i ddim yn teimlo fel person feminine bellach, roedd yn deimlad rhyfedd.
“Pan es i Maggie’s, fe wnaethon nhw fy helpu drwy’r broses yna, a helpu fi i allu edrych ar fy hun yn y drych a pheidio teimlo cywilydd o fy hun pan o'n i’n edrych yn y drych.
“Roedd y gefnogaeth yn help enfawr i mi yn feddyliol. Ti’n teimlo’n unig iawn yn ystod cyfnod fel hynny, ond gyda Maggie’s, doeddwn i ddim ar ben fy hun.
“Gymaint â mae teulu a ffrindiau eisiau eich cefnogi, does neb yn deall oni bai bod nhw wedi bod trwy’r un profiad yn anffodus. Yn Maggie’s, da chi ddim just ‘y person yna sydd efo canser’ - chi yw chi unwaith eto.”
Wythnos diwethaf, fe wnaeth Samantha ‘ganu’r gloch’ yn Ysbyty Maelor yn Wrecsam i nodi ei gwellhad o ganser a diwedd ei thriniaeth. Roedd hynny flwyddyn a phedair wythnos ar ôl iddi hi dderbyn ei diagnosis.
Ychwanegodd: “Dwi ddim yn meddwl byswn i byth wedi gwybod am Maggie’s oni bai fy mod i 'di bod yng Nghaer.
“Yn Wrecsam fe wnes i dderbyn y cemotherapi ges i, ond doedden nhw ddim yn hysbysebu Maggie’s yno.
“Ond pan es i i Gaer, dyna ble glywais i amdanyn nhw, efallai gan mai yn Lloegr maen nhw ac yn Lloegr mae’r Maggie’s. Ond mae’r ffaith ei fod yn dod i ogledd Cymru yn wych.”
Canser fel “bom atom”
Mae’r sefydliad elusennol y Steve Morgan Foundation wedi rhoi £4 miliwn i adeiladau’r ganolfan ym Modelwyddan.
Y dyn busnes Steve Morgan ariannodd y prosiect i adeiladu'r ganolfan ganser yn Clatterbridge, Cilgwri hefyd. Fo sefydlodd gwmni adeiladu Redrow.
Yn 2023, cynhaliodd y ganolfan 17,500 o sesiynau cymorth i gleifion dros gyfnod o flwyddyn.
Dywedodd Mr Morgan wrth Newyddion S4C: “Dwi wedi byw hanner fy mywyd yng ngogledd Cymru, yn y Rhyl a Dyffryn Clwyd, felly dyma oedd yr ysbyty lleol i mi.
“Felly mae’n golygu lot fawr i mi allu rhoi rhywbeth yn ôl i bobl gogledd Cymru a’r ardal yma yn benodol, sydd wedi bod yn dda iawn i mi. Fe wnaeth yr ardal alluogi i mi dyfu Redrow ac mae’r bobl yma yn ffantastig.
“Mae Maggie’s yn sefydliad arbennig iawn. Doeddwn i ddim yn medru credu’r gwahaniaeth roedden nhw’n ei wneud i bobl yn dioddef gyda chanser.
“Roedden nhw’n edrych am arian i adeiladu canolfan yng Nghilgwri a dywedais yn y fan a’r lle – fe wnawn ni ei hadeiladu.
“Ac yn ddiweddarach, fe glywsom eu bod nhw’n gobeithio adeiladu canolfan ym Modelwyddan – 'Ni sydd am wneud hynny' dywedais i.
“Fe wneith o helpu miloedd o bobl pob blwyddyn. Mae’n drist i ddweud, ond fe wneith degau o filoedd o bobl cael budd o’r ganolfan dros y degawd nesaf.
“Mae’n drist oherwydd mae canser yn beth erchyll, mae fel petai yna fom atom yn cael ei ollwng y tu mewn i’ch corff pan ‘da chi'n derbyn diagnosis. Cafodd fy ngwraig, Sally, ddiagnosis canser 12 mlynedd yn ôl.
“Daeth hi drwyddo, ond dwi wedi cael profiad o beth mae’n ei wneud i bobl.”
Dywedodd Siân Hughes-Jones, Pennaeth Nyrsio'r adran ganser yng ngogledd Cymru, y byddai gwasanaethau’r ganolfan yn cael eu hysbysebu yn ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ac Uned y Seren Wib yn Ysbyty Maelor Wrecsam maes o law.
Ychwanegodd Ms Hughes-Jones: “Mae hyn yn gyfnod cyffrous i ni ac i’r cleifion.
"Fel mae pawb yn gwybod yn y maes iechyd, mae’r pace yn gyflym iawn a does ‘na ddim bob tro'r amser ‘da ni angen i drafod a siarad efo’r cleifion.
“Ond mae Maggie’s yn gallu cynnig hynny i’r cleifion a rhoi support seicolegol pan maen nhw’n mynd drwy amser gwaethaf eu bywydau nhw.”