Newyddion S4C

Llysdad Peter Connelly, 'Babi P' yn colli cais i'w ryddhau o garchar

01/10/2024
Steven Barker

Mae llysdad Peter Connelly a fu farw ar ôl cael ei gamdrin am fisoedd, wedi colli ei gais am barôl i'w ryddhau o garchar.  

Cafodd Steven Barker ei garcharu am 12 mlynedd yn 2009 am achosi neu ganiatáu marwolaeth y bachgen bach 17 mis oed a oedd yn cael ei adnabod fel 'Babi P' yn ystod yr achos llys.

Cafodd Barker hefyd ddedfryd o garchar am oes a'i orchymyn i dreulio isafswm o 10 mlynedd o dan glo, ar ôl i lys arall ei gael yn euog o dreisio dioddefwr arall.  

Cyhoeddodd y Bwrdd Parôl ddydd Mawrth bod ei gais am barôl wedi ei wrthod am nifer o resymau: “Ar ôl ystyried amgylchiadau ei droseddau, y cynnydd tra yn y ddalfa, a'r dystiolaeth sydd wedi ei chyflwyno, dyw'r panel ddim o'r farn y byddai ei ryddhau o garchar ar yr adeg hon yn gam diogel wrth ystyried diogelwch y cyhoedd.

“A dyw'r panel ddim wedi argymell y dylai gael ei drosglwyddo i garchar agored."

Ychwanegodd y bwrdd bod materion allweddol yn ymwneud â risg yn parhau ac felly ei bod yn briodol cadw Steven Barker mewn carchar caeedig.  

'Risg yn rhy uchel'

Daw'r datblygiad diweddaraf fis wedi i fam Peter, Tracey Connelly, gael ei hanfon yn ôl i garchar ddwy flynedd ers iddi gael ei rhyddhau, ar ôl torri amodau ei thrwydded.

Fe gafodd ei charcharu yn wreiddiol yn 2009 am achosi neu ganiatáu marwolaeth ei phlentyn yng Ngogledd Llundain, a chafodd ei dedfrydu i leiafswm o bum mlynedd o dan glo, cyn cael ei rhyddhau yn 2013.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, fe gafodd y ddynes sydd bellach yn ei 40au ei charcharu unwaith yn rhagor, am dorri amodau ei pharôl cyn cael ei rhyddhau ym mis Gorffennaf 2022.

Yn ôl dogfennau parôl yn achos Steven Barker, dyma'r pumed tro i adolygiad gael ei gynnal, ers diwedd cyfnod isafswm ei ddedfryd.

Mae hynny'n golygu ei fod eisoes wedi treulio saith mlynedd ychwanegol o dan glo,     

Adeg ei ddedfryd, mynnodd Barker ei fod yn ddieuog yn yr achos treisio, a chytunodd iddo "ganiatáu marwolaeth Peter Connelly, gan na gysylltodd â'r awdurdodau i nodi ei anafiadau". 

O dan glo, dyw e ddim wedi ymuno ag unrhyw gyrsiau a allai “ostwng y tebygolrwydd iddo ymddwyn yn dreisgar a chyflawni troseddau rhyw". 

"Mae'r panel o'r farn y byddai'r risg i eraill yn rhy uchel pe bai'n cael ei ryddhau", meddai'r dogfennau. 

Bydd adolygiad parôl arall yn cael ei gynnal i ystyried achos Steven Barker ymhen tua dwy flynedd.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.