Newyddion S4C

Symud cleifion mewn ysbyty yn y de ar ôl i ddŵr ollwng i'r adeilad

01/10/2024
Ysbyty Tywysoges Cymru

Mae bwrdd iechyd yn ne Cymru wedi dweud bod cleifion yn un o'u hysbytai yn cael eu symud ar ôl i ddŵr glaw ollwng i mewn i'r adeilad.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ddydd Mercher bod "gwaith brys ar y gweill" yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i symud rhai cleifion o ardaloedd "lle mae nenfydau wedi'u difrodi".

Mae rhai apwyntiadau nad ydynt yn rhai brys hefyd wedi cael eu gohirio, meddai'r bwrdd iechyd. 

Yn ôl Gethin Hughes, Prif Swyddog Gweithredu'r bwrdd iechyd, roedden nhw'n "ymwybodol" bod "angen sylw" ar do'r ysbyty.

"Roedd gwaith atgyweirio eisoes ar y gweill pan waethygodd y sefyllfa wedi'r tywydd garw diweddar," meddai.

"O ganlyniad, rydym yn rheoli effaith y difrod a achosir i'r nenfwd mewn sawl rhan o'r ysbyty, gan gynnwys mewn rhai ardaloedd sy’n cael eu defnyddio ar gyfer darparu gofal cleifion."

Mae cleifion wedi cael eu symud i wardiau ac ardaloedd clinigol eraill.

'Aflonyddwch'

Ychwanegodd Mr Hughes y bydd yn "anochel" y bydd rhai cleifion yn "profi anghyfleustra".

"Er bod mwyafrif helaeth y gwasanaethau yn yr ysbyty yn parhau i weithredu fel arfer, mae'n anochel y bydd y sefyllfa yn amharu ar rai cleifion ac aelodau'r cyhoedd yn ystod eu harhosiad neu ymweliad. 

"Hoffem ddiolch i bobl am eu cydweithrediad a'u hamynedd hyd yn hyn ac wrth i ni ymgymryd â'r gwaith angenrheidiol i asesu a rheoli'r sefyllfa."

Dywedodd y bwrdd iechyd y dylai pobl barhau i fynychu apwyntiadau sydd wedi'u cynllunio oni bai bod aelod wedi cysylltu'n uniongyrchol â nhw. 

Llun: Google Maps

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.