Pryder bod costau cynyddol yn amharu ar brofiad myfyrwyr
Pryder bod costau cynyddol yn amharu ar brofiad myfyrwyr
Cyfnod llawn cyffro a chyfleoedd yn ffair y glas ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae digon o brofiadau newydd ar gael tra'n ymdopi â heriau byw i ffwrdd o adref am y tro cyntaf gan gynnwys gorfod cyfri'r ceiniogau.
"Ni'n gweld lot o fyfyrwyr yn gweithio.
"Ni'n poeni bod o'n mynd i effeithio ar eu hastudiaethau.
"Ni'n gweld bod myfyrwyr yn gorfod gweithio bron yn llawn amser...
"..i wneud yn siwr bod ganddyn nhw ddigon o bres i fyw yma.
"Dim dyna'r bwriad o fod yn y brifysgol.
"Ni am i bobl cael profiad prifysgol a neud yn dda ond mae'n broblem."
Gall myfyrwyr o Gymru hawlio dros £12,000 y flwyddyn mewn grantiau a benthyciadau os yn astudio i ffwrdd o adref a thu fas i Lundain.
Yn ôl un corff ymchwil, mae'n fwy hael na unrhyw ran arall o'r DU ond dal yn brin o'r £18,600 sydd angen ar gyfer safon byw derbyniol.
Mae Grace, Iwan a Steffan yn dechrau ar y bennod newydd.
"Mae gen i swydd rhan amser yn barod mewn siop gwersylla."
"Mae teulu fi'n handy a wastad yn hala negeseuon i safio arian."
"Dw i'n becso am y costau yn y dyfodol o dalu nôl y student loan."
"Mae'r benthyciad yn mynd i fod fel 9% o dreth."
Yn ôl Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Nghymru mae mynd i'r brifysgol yn cynnig manteision er gwaetha'r costau.
"Mae cwestiynau o ran gwerth graddau prifysgol erbyn hyn.
"Mae astudiaethau'n dangos bod prifysgol yn rhoi chi mewn sefyllfa gwell i gael swyddi yn y dyfodol.
"Gyda'r holl bryderon yn y sector, mae cwestiynau sydd angen ateb."
Mae prifysgolion Cymru'n gweithredu i gefnogi myfyrwyr...
..ac mae rhai wedi ymestyn eu cronfeydd caledi.
Eu neges i unrhyw fyfyrwyr sy'n wynebu trafferthion ariannol...
...yw i wneud y mwya o'r cyngor a chymorth helaeth sydd ar gael.