Cwmni yn beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio mynd i'r afael â llygredd afonydd
Cwmni yn beirniadu Llywodraeth Cymru am beidio mynd i'r afael â llygredd afonydd
Cymeradwyaeth yn Quito, Ecwador, bore 'ma a safle trin dŵr wedi'i godi gan gwmni Cymreig yn agor yn swyddogol.
Bwriad y safle yw troi miloedd o dunelli o ddŵr llygredig all heintio Afon El Inga y ddinas yn ddŵr glân.
"Mae 'di bod yn lot o waith i gael popeth draw i Ecwador."
Ar safle fwyaf cwmni Hydro yn Llangennech, Sir Gar mae cyffro am y cynllun rhyngwladol diweddaraf i lanhau dŵr.
"Mae 'di bod yn waith caled ond ni'n browd bod ni wedi wneud e a helpu i gadw un o afonydd fwyaf Ecwador yn lân."
Nid yn Ecwador yn unig mae llygredd dŵr yn broblem.
Yma yng Nghymru, mae tipyn o sylw wedi bod i lygredd yn ein hafonydd.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae llygredd diwydiannol carthffosiaeth yn cael ei ollwng gan gwmniau dŵr a gwastraff amaethyddol yn cyfrannu at niweidio ein hafonydd.
Mae'r sefydliad amgylcheddol, Cyfeillion y Ddaear Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau deddfwriaeth i warchod afonydd a'r môr rhag cael eu llygru.
"Mae hwn yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd, a'n hiechyd a lles.
"Dylai'r awdurdodau cael yr adnoddau a'r cyllid maen nhw angen...
"..i lanhau'r safleoedd a gwarchod yr amgylchedd."
Yn Ecwador, ar gyfer agoriad y safle newydd mae prif weithredwr Hydro yn rhwystredig.
Mae'n dweud y gallai'r cwmni defnyddio'r dechnoleg yng Nghymru ond yn honni bod y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus ddim am drafod.
"The pollution going on in Wales relating to legacy mines...
"..which is things like lead and zinc which we're taking out here.
"Whether it's around sewage discharges into our rivers...
"..that's pretty straightforward stuff.
"It is frustrating that we're not engaged and not doing more in Wales.
"Politicians in Wales, please engage with us because we can help."
Dyw Llywodraeth Cymru na CNC heb ymateb yn uniongyrchol.
Y mis yma, wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet, Huw Irranca-Davies sy'n gyfrifol am newid hinsawdd a materion gwledig ddweud bod y Llywodraeth wedi ariannu cynllun i fynd i'r afael â llygredd o hen fwyngloddiau.
Maent yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella ansawdd dŵr afonydd.
Maer Quito sy wedi ariannu'r safle yma yn Ne America sydd wedi costio miliynau o ddoleri.
I gwmni Hydro, a rhai mudiadau amgylcheddol gallai'r gost o beidio gwario arian tebyg yng Nghymru fod yn uwch.