£80m i ariannu gwaith ar gannoedd o hen domenni glo

Pwll glo

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £80m er mwyn ariannu gwaith ar gannoedd o hen domenni glo ar draws Cymru. 

Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ddydd Gwener y bydd y dull newydd yn caniatáu i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru "gynllunio, datblygu a chyflawni cynlluniau mwy, a mwy cymhleth."

Ychwanegodd ei fod yn "garreg filltir arwyddocaol" yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelwch tomenni glo. 

Fe fydd cam un y Grant Diogelwch Tomenni Glo yn darparu cyllid i 10 awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru tan ddiwedd blwyddyn ariannol 2029-30.

Fe fydd y prosiectau allweddol yn cynnwys Nant-yr-Odyn, Merthyr Tudful, a fydd yn derbyn £7m, Cam 1 Prosiect Adfywio safle'r British, Torfaen a fydd yn derbyn £5.6m, a Gwaith Cyweirio ar ôl Tirlithriadau Tylorstown, Rhondda Cynon Taf a fydd yn derbyn £2.3m.

'Newyddion gwych'

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Mae'r buddsoddiad hwn yn newyddion gwych – bydd yn ein helpu i wireddu ein huchelgeisiau i wella diogelwch ar y safle, sy'n cael ei werthfawrogi gan y gymuned leol. 

"Bydd gan y prosiect hefyd fanteision ehangach o ran diogelu bioamrywiaeth bwysig a lliniaru'r risg o lifogydd yn yr ardal leol.

"Mae llawer o drefi yng Nghymru wedi tyfu i fyny o amgylch y diwydiant mwyngloddio glo ac mae'n iawn bod y cymunedau hyn yn cael eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Mae'r buddsoddiad uchaf erioed hwn yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad i ddiogelwch tomenni glo. 

"Mae'r dull aml-flwyddyn yn rhywbeth yr wyf wedi galw amdano ers amser maith – mae'n rhoi'r sicrwydd y mae ei angen i awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynllunio a chyflawni prosiectau adfer mwy, a mwy cymhleth."

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo £25 miliwn yn y flwyddyn ariannol bresennol yn ogystal â £118 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf. 

Gyda chyllid o £87 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae dros £230 miliwn bellach wedi ei ymrwymo i ddiogelwch tomenni glo ar draws y wlad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.