Newyddion S4C

'Cymro i'r carn': Codi £500 i adnewyddu murlun Gareth Bale

02/10/2024
murlun Gareth Bale

Bydd murlun Gareth Bale yng Nghaerdydd yn cael ei adnewyddu ar ôl ymgyrch lwyddiannus i godi arian i gwblhau'r gwaith.

Roedd Bethan Richards, sy'n byw yn y brifddinas, wedi dechrau tudalen JustGiving i godi'r £500 ar gyfer y gwaith.  

O fewn wyth awr, cafodd y targed ei gyrraedd. Does neb yn falchach na Bethan sydd yn cerdded heibio'r murlun ar Stryd yr Eglwys bron bob dydd.

"Roedd y murlun wedi mynd lan hanner milltir o le fi’n byw, ac roedd lot o bobl gyda rhyw fath o rituals ac arferiad," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dwi’n cerdded heibio fe bron bob dydd a dwi bob tro yn dweud ‘bore da Bale’ pan dwi’n cerdded heibio.

"O’n i arfer saliwtio yn y car gyda’r bois, dou crwt dau a phump oed ac ar y school run oedden ni’n saliwtio a dweud ‘bore da Bale’."

Yr artist Bradley Woods fydd yn adnewyddu'r murlun o gyn gapten Cymru. 

Image
meibion Bethan Richards

'Codi ysbryd'

Roedd perfformiadau Cymru yn Euro 2016 yn achos dathliadau mawr ym mhob rhan o Gymru. 

Er nad oedd llawer yn meddwl y byddai Cymru yn cyrraedd tu hwnt i'r grwpiau fe aethon nhw ymlaen i ennill y grŵp, gan orffen uwchben Lloegr.

Yna daeth buddugoliaethau yn erbyn Gogledd Iwerddon a Gwlad Belg, oedd ar frig rhestr detholion FIFA ar y pryd. Colli fu hanes Cymru yn y rownd gynderfynol i enillwyr y gystadleuaeth, Portiwgal.

"Mae'r murlun yn mynd â fi nôl i 2016 a oedd yn digwydd yn ystod yr haf yna," meddai Bethan.

"Roedd refferendwm Brexit, Trump yn rhedeg i fod yn Arlywydd yn America, roedd pethau yn teimlo bach yn bleak.

"Ond yng nghanol hwnna i gyd roedd y perfformiadau hudol gan garfan Cymru. Fe wnaeth e godi ysbryd a gludo pethau nôl gyda'i gilydd.

"A Bale yn ffantastig, Cymro i'r carn oedd yn wych i ni yn yr Euros."

'Hollol sioc'

Cafodd y murlun ei gomisiynu gan BBC Cymru ar gyfer rhaglen arbennig BBC Wales Today ym mis Hydref 2015.

Naw mlynedd yn ddiweddarach mae rhannau o'r paent coch sydd yn lliwio crys Gareth Bale wedi dechrau plisgo.

"I weld y murlun nawr yn dechrau pydru bach, fi jyst yn teimlo’n rili gryf os ti'n gadael pethau i bydru ac esgeuluso nhw, mae e fel dweud bod e ddim o werth i ni," meddai Bethan.

Image
Cymru v Gwlad Belg
Chwaraewyr Cymru yn dathlu ar ôl ennill yn erbyn Gwlad Belg yn rownd yr wyth olaf. Llun: Wochit

"Mae hanes bois yr Ewros yn rili bwysig ac mae’n bwysig bod ni’n cadw dweud diolch.

"O'n i'n gwybod yn y bôn bydden i yn bwrw’r targed ond o fewn wyth awr oedd £500 yna. 

"Fi’n credu oedd y gymuned ei hun yn Eglwys Newydd yn dechrau gweld y paent yn chwalu tipyn bach a fi'n meddwl mae’n bwysig bod ni'n neud rhywbeth."

Mae gan Ysgol Gyfun yr Eglwys Newydd nifer o gyn ddisgyblion sydd wedi mynd ymlaen i fod yn sêr byd chwaraeon Cymru.

Gyda murlun Bale yn cael ei adnewyddu, oes lle i ddau Gymro arall tybed?

"Ma' lot o bobl wedi dweud 'beth am Geraint Thomas a Sam Warburton nesa'? Ond i fi jyst cael y job yma wedi neud cynta'!"

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.