Newyddion S4C

Martin Lee o'r grŵp Brotherhood of Man wedi marw yn 77 oed

01/10/2024
Martin Lee

Mae'r canwr Martin Lee, a oedd yn aelod o'r grŵp Brotherhood Of Man a enillodd yr Eurovision Song Contest ar ran y DU wedi marw yn 77 oed. 

Enillodd y grŵp pop y gystadleuaeth gyda'r gân Save Your Kisses For Me yn y rownd derfynol yn yr Iseldiroedd yn 1976. 

Cipiodd y gân 164 o bwyntiau, 70 o bwyntiau yn fwy na'r Swistir a ddaeth yn ail.  

Cyrhaeddodd frig y siartiau yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn honno, gan gyrraedd Rhif Un mewn mwy na 30 o wledydd.  

Dywedodd datganiad gan y band: “Gyda thristwch mawr, rydym yn cyhoeddi marwolaeth ein ffrind mawr a'n cydweithiwr yn Brotherhood Of Man, Martin Lee, a wnaeth ein gadael yn heddychlon nos Sul 29 Medi 2024, wedi problemau â'r galon a salwch byr. Roedd Martin yn 77.”

Martin Lee oedd prif leisydd a gitarydd y grŵp pan ymunodd yn 1972 – gyda Lee Sheriden, Sandra Stevens, a Nicky Stevens hefyd yn y band. 

Cyn ymuno â Brotherhood Of Man, roedd Lee eisoes wedi cyhoeddi sengl fel artist unigol o'r enw Cry Jose, ac roedd e hefyd wedi chwarae yn y Johnny Howard Band.

Martin Barnes oedd ei enw geni, a chafodd ei fagu yn Purley, Llundain cyn treulio pum mlynedd o'i blentyndod yn Awstralia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.