Ymosodiad asid y tu allan i ysgol yn anafu merch 14 oed ‘yn ddifrifol’
Mae merch 14 oed wedi dioddef anafiadau allai newid ei bywyd wedi ymosodiad gydag ‘asid’ y tu allan i ysgol.
Cafodd bachgen 16 oed a dynes 27 oed hefyd eu hanafu wedi i’r sylwedd gael ei daflu y tu allan i ysgol Westminster Academy yng ngorllewin Llundain.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig brynhawn ddydd Llun, toc wedi 16:40.
Mae’r ferch a’r bachgen yn yr ysbyty o hyd ond nid yw anafiadau'r bachgen yn rhai difrifol. Mae’r ddynes 27 oed wedi cael mynd adref.
Dywedodd Scotland Yard fod dau swyddog hefyd wedi’u cludo i’r ysbyty ar ôl iddyn nhw ddweud eu bod nhw’n teimlo’n sâl.
Dywedodd llefarydd ar ran y Met: “Mae profion ar y sylwedd yn parhau. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn credu ei fod yn asidig.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed i adnabod ac arestio’r rhai sy’n gyfrifol.”
Mae Academi San Steffan yn parhau ar gau ddydd Mawrth, gyda gwersi yn cael eu cynnal ar-lein, yn ôl datganiad ar ei gwefan.