Pwysau ariannol ar ysgolion Sir Gâr yn 'argyfyngus'
Mae pwysau ariannol sydd yn wynebu nifer o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn "argyfyngus" meddai aelod o'r cyngor.
Yn ôl y Cynghorydd Glynog Davies, aelod cabinet Cyngor Sir Gaerfyrddin dros addysg a'r Gymraeg mae hi'n hanfodol bod arweinwyr ysgolion yn cydnabod y sefyllfa.
Y disgwyl yw y bydd ysgolion yn gorwario £10.8m y flwyddyn ariannol hon medd adroddiad gan y cabinet.
Mae'r ddogfen hefyd yn nodi bod yna ddisgwyl bod gan ysgolion arian dros ben erbyn diwedd mis Mawrth flwyddyn nesa, er bod diffyg o £5.6m ar hyn o bryd.
Mae'r cyngor wedi danfon llythyr at arweinwyr ysgolion a llywodraethwyr yn cyfleu'r sefyllfa.
Cydnabod bod y sefyllfa ariannol yn gwneud pethau'n "anodd, anodd iawn" wna'r Cynghorydd Davies. Mae'n dweud bod y llythyr yn dangos "y ffeithiau."
"Dwi yn credu bod hi'n hanfodol bod ein hysgolion a chyrff llywodraethu yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa. Mae'n argyfwng."
Ysgol Heol Goffa
Ym mis Mai eleni fe ddywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin nad oedd modd bwrw ymlaen gyda chynllun i ariannu adeilad newydd i ddisgyblion Ysgol Heol Goffa oherwydd bod costau adeiladu wedi cynyddu’n sylweddol.
Fe ddywedodd arweinydd y cyngor, Darren Price, fod yr awdurdod ond wedi “tynnu’r plwg ar dendr penodol” ar gyfer yr ysgol newydd ac nid gwneud tro pedol "ar gyfer y cynllun cyfan".
Fe fyddai Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu 75% tuag at gost yr ysgol newydd.
Mae Ysgol Heol Goffa yn ysgol i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn ardal Llanelli.
Lle i 75 o ddisgyblion sydd yn yr ysgol, ond mae 124 yno ar hyn o bryd. Mae 18 disgybl hefyd ar y rhestr aros.
Bydd adolygiad yn cael ei gynnal gan gyn bennaeth anghenion dysgu ychwanegol a llesiant yng Nghyngor Bro Morgannwg, David Davies.
Bwriad yr adolygiad hwnnw fydd nodi opsiynau ar gyfer darpariaeth addysg anghenion dysgu ychwanegol yn ardal Llanelli yn y dyfodol.
Mae disgwyl iddo ddod i ben erbyn diwedd y flwyddyn ac fe fydd costau llawn yr opsiynau ynghlwm a hynny.
'Blynyddoedd o danariannu'
Mae'r Cynghorydd Alun Lenny, aelod y cabinet dros adnoddau yn cydnabod y "pwysau anferth mae ysgolion yn wynebu."
Ychwanegodd fod y rhagolygon ar gyfer y gyllideb ddim yn cynnwys tâl i athrawon na chodiad mewn taliadau pensiwn.
Mae disgwyl i'r cyngor orwario tua £17.9 miliwn i gyd, gyda £3.2 miliwn mewn costau gwasanaethau plant sydd "heb eu cynllunio."
Yn ôl yr awdurdod mae'r £3.2 miliwn ychwanegol o achos "twf parhaus yn nifer y plant mewn lleoliadau preswyl cost uchel iawn, yn ogystal â’r angen parhaus i gyflogi staff asiantaeth".
Mae'r cyngor yn bwriadu defnyddio arian wrth gefn i liniaru peth o'r pwysau, ond mae disgwyl iddynt dal i fod £9.6m yn y coch.
Blynyddoedd o danariannu sydd wrth wraidd y pwysau ariannol, meddai'r Cynghorydd Lenny.
Yn ôl Nicola Fitzpatrick, ysgrifennydd dros dro Cymru ar gyfer Undeb Addysg Genedlaethol Cymru, mae cyllidebau ysgolion "dan straen eleni".
Cyfrifoldeb cynghorau
Canlyniad hyn meddai yw lefelau uchel o ddiswyddiadau.
"Yn benodol, mae ein haelodau'n dweud wrthym fod heriau o ran cefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol a chyflenwi absenoldeb staff gydag athrawon cymwys.
“Wrth i Lywodraeth Cymru edrych ar y gyllideb mae’n bwysig cofio y bydd y sgiliau a’r profiadau a gaiff plant yn yr ysgol yn helpu i’w cynnal drwy gydol eu hoes," meddai.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gynharach ym mis Medi bod yr arian mae Llywodraeth Leol yn derbyn wedi cynyddu 7.9% yn 2023-24 a 3.3% eleni. Cyfrifoldeb cynghorau yw cwrdd â chostau cyflogau athrawon meddai'r llefarydd.
Mae'r llefarydd hefyd yn dweud bod arian ychwanegol wedi bod ar gael o flwyddyn i flwyddyn i gynghorau lle bod angen hynny.