Bodio wedi 'newid bywyd' dyn ifanc
Mae dyn ifanc sydd wedi bodio ar draws Prydain a chael mwy na 200 lifft am ddim yn annog eraill i wneud yr un peth.
Fe ddechreuodd Nico Lethbridge, sy'n 26 oed fodio ar ôl mynd i ymweld â'i gefnder yn America yn 2017.
Doedd ganddo ddim digon o arian i logi car tra roedd o yno. Felly fe fodiodd llwybr 101 gan gyrraedd yn y pendraw Seattle, 1,000 o filltiroedd i ffwrdd.
"Mi oedd o'n anhygoel ac mewn ffordd mi newidiodd fy mywyd. Tan y pwynt hynny mi o'n i wedi bwriadu gweithio yn y Ddinas a gwneud cymaint o arian a phosib... ond mi newidiodd y ffordd dwi'n meddwl am fywyd."
Ers hynny mae wedi cael reid gan ddieithriaid ym Mhrydain ac mewn gwledydd eraill dramor gan gynnwys Zambia, Nepal, Azerbaijan, Ffrainc a'r Eidal.
"Wir i chi Prydain yw'r lle hawsaf i wneud hyn (bodio)," meddai Nico, sy'n dod o Essex.
"Dwi'n ffindio yn gyffredinol mae'n cymryd dwywaith yr hyn mae Google Maps yn dweud, sydd ddim rhy ffôl a dwi fel arfer yn disgwyl llai na hanner awr."
'Rhyfedd'
Bag ar ei gefn a bwrdd bach gwyn sydd gan Nico pan mae'n bodio. Mae'n dweud ei fod wedi arbed mwy na £3,000 ar docynnau teithio.
Ond yr hyn mae'n hoffi fwyaf yw'r bobl wahanol mae'n cyfarfod.
"Y budd mwyaf yw gwneud cysylltiad efo dieithriaid ar hap... Dwi wedi cwrdd â bob math o bobl, o ddelwyr cyffuriau a ffoaduriaid i artistiaid ac un o'r glowyr olaf ym Mhrydain."
Dyw Nico erioed wedi teimlo ei fod mewn perygl meddai ac mae'n dweud nad yw wedi cael "unrhyw brofiadau gwael".
Ond mae wedi "dweud na" weithiau am nad oedd yn teimlo yn gyfforddus gyda'r gyrrwr. Ei gyngor yw edrych yn "daclus" ond "ddim yn rhy smart".
Erbyn hyn mae Nico yn tynnu lluniau o'i deithiau ac yn eu cofnodi mewn blog. Ei obaith yn y dyfodol yw creu llyfr yn sôn am ei atgofion.
Mae'n cydnabod bod rhai o'i ffrindiau a'i deulu yn meddwl bod yr hyn mae'n gwneud "braidd yn rhyfedd".
"Mae pobl yn aml yn meddwl bod gwneud hyn yn fwy peryglus nawr ond dwi'n meddwl i'r gwrthwyneb achos mae gen ti dy ffôn symudol.
"Os oes gyda chi'r amser, ffon sydd wedi ei bweru yn llawn ac eich bod chi yn chwilio am antur yna cerwch i'r arosfan agosaf."
Lluniau: PA