'Diwedd cyfnod' pe bai Llancaiach Fawr yn cau
Fe fyddai cau safle treftadaeth Llancaiach Fawr yng Nghaerffili yn golygu "diwedd cyfnod" ac yn golygu y byddai 34 o swyddi yn cael eu colli.
Mae'r rhai sydd o blaid cadw'r safle treftadaeth ar agor wedi penderfynu cynnal cyfarfod i drafod sut mae modd osgoi cau'r drysau.
Dan gynlluniau Cyngor Bwrdeistref Caerffili bydd y safle yn ardal Treharris yn y sir yn cau erbyn diwedd y flwyddyn.
Mae undeb Unison yn gwrthwynebu'r cynlluniau a fyddai yn golygu byddai 34 o swyddi yn cael eu colli.
Dywedodd ysgrifennydd yr undeb yng Nghaerffili, Lianne Dallimore bod "angen i'r cyngor wneud bob dim" i gadw'r safle ar agor.
"Mae'r amgueddfa nid yn unig yn ganolfan diwylliannol ac addysgiadol bwysig i'r gymuned ond mae'n cynnig swyddi i aelodau staff ymroddedig," ychwanegodd Ms Dallimore.
"Mae'r cyfarfod cyhoeddus yn gyfle i ddangos cryfder a herio'r cyngor i wneud bob dim i achub yr adeilad hanesyddol hwn."
'Safiad'
Yn ôl y cyngor mae rhaid gwneud penderfyniadau "anodd" fel hyn er mwyn ceisio lleihau'r bwlch gwerth tua £45 miliwn yn ei chyllideb.
Mae yna sôn bod gan gwmni ddiddordeb mewn prynu rhan o'r safle, ond nid yw'r cyngor wedi datgelu unrhyw wybodaeth am drafodaethau gyda chwmnïau eraill.
Mae undeb Unison wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus yn Llancaiach Fawr ar 5 Hydref er mwyn i "bobl leol, haneswyr, addysgwyr ac unrhyw un arall sydd yn gweld gwerth yn y safle i wneud safiad yn erbyn y cynlluniau."