'Mwyafrif o athrawon' yn gweld plant ysgol mewn dillad budr
Mae'r mwyafrif o athrawon wedi gweld plant yn cyrraedd yr ysgol mewn dillad budr, gwalltiau heb eu golchi a dannedd heb eu brwsio yn ôl arolwg newydd.
Mae pedwar o bob pump (80%) o staff ysgol yn credu bod cynnydd wedi bod mewn materion “tlodi hylendid” yn eu hysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Maent yn dweud eu bod yn disgwyl i'r sefyllfa waethygu.
Fe wnaeth 500 o staff ysgolion y Deyrnas Unedig gymryd rhan yn yr arolwg.
Mae'r arolwg yn awgrymu bod bron i dri o bob 10 (28%) wedi gweld plant yn colli ysgol dro ar ôl tro oherwydd eu hylendid.
Yn ogystal, mae mwy na thri o bob pump (62%) wedi gweld disgyblion â gwisgoedd ysgol neu wisg addysg gorfforol fudr, ac mae 60% wedi nodi gwallt heb ei olchi a dannedd budr.
Yr elusen The Hygiene Bank a chwmni glanhau smol wnaeth gynnal yr arolwg.
Noda'r ymchwil bod disgyblion sydd wedi'u heffeithio gan dlodi hylendid wedi profi lefel isel o hunan-barch, bwlio a theimlo'n unig.
Ar gyfartaledd, fe wariodd staff ysgol tua £27 o’u pocedi eu hunain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar gynnyrch hylendid i helpu disgyblion.
'Torcalonnus'
Dywedodd Ruth Brock, prif weithredwr The Hygiene Bank: “Mae’n dorcalonnus bod plant ledled y DU yn 2024 yn gweld eu haddysg yn dioddef oherwydd na all eu teuluoedd fforddio’r hyn sydd eu hangen arnynt i gadw’n lân.
“Mae tlodi hylendid yn argyfwng tawel sy’n effeithio nid yn unig ar iechyd a lles plant, ond hefyd eu gallu i gymryd rhan yn llawn yn yr ysgol, gan gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd o bosibl.
"Mae angen i athrawon allu addysgu; ni ddylai'r cyfrifoldeb fod arnyn nhw i lenwi'r bylchau, yn ariannol ac yn emosiynol, drwy ddarparu’r hanfodion hyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw yn gweithredu cynlluniau i helpu mynd i'r afael gyda thlodi plant.
“Rydym yn cymryd camau i leihau tlodi plant, gan gynnwys darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, clybiau brecwast am ddim a’n Grant Hanfodion Ysgol, sy’n helpu teuluoedd incwm is i brynu gwisg ysgol ac offer, gan gynnwys cotiau ac esgidiau, ac mae wedi helpu mwy na 90 y cant o ddysgwyr cymwys gyda chostau ysgol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym yn cymryd camau i gyflawni ein cenhadaeth i chwalu rhwystrau sydd yn atal cyfleoedd a chael gwared ar staen tlodi plant o’n gwlad.
“Mae hynny’n cynnwys deddfu i ostwng costau gwisg ysgol drwy gapio nifer yr eitemau sydd wedi’u brandio, a bydd cymaint â 750 o ysgolion yn dechrau darparu clybiau brecwast mor gynnar â mis Ebrill nesaf."
Mae Newyddion S4C wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb am fod addysg wedi ei ddatganoli.
Llun: Jas Lehal/PA