Dyn ifanc sydd â diabetes yn annog pobl i gymryd y ffliw ‘o ddifrif’
Mae dyn ifanc sy'n byw â diabetes a chyflyrau iechyd hirdymor eraill eisiau annog pobl i gymryd y ffliw o ddifrif wedi iddo gael ei daro’n difrifol wael â’r feirws.
Dim ond wythnos wedi iddo ddathlu priodas ei frawd y llynedd, bu'n rhaid i Joseph Sullivan, 26 oed dreulio noson yn yr ysbyty.
Dywedodd Joseph sy'n dod o Fro Morgannwg nad oedd “erioed wedi teimlo mor sâl yn fy mywyd.”
Ag yntau’n byw â diabetes math 1 yn ogystal â math o hepatitis sy’n effeithio ar ei afu, mae’n annog pobl sy’n byw â chyflyrau tebyg i gael eu brechu er mwyn eu diogelu rhag y salwch.
“Fyddwn i ddim yn dymuno’r ffliw ar unrhyw un.
“Daeth ag ystyr hollol newydd i’r gair ‘ffliw’ i mi,” meddai Mr Sullivan ar ôl iddo ddioddef o'r salwch.
'Difrifol wael'
Mae dros 12,000 o bobl yn byw â chlefyd yr afu yng Nghymru, ac maen nhw 48 gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i’r ffliw.
Yn ogystal â dioddef â phroblemau’r afu, mae Mr Sullivan hefyd ymhlith dros 99,000 o bobl sy’n byw â diabetes yng Nghymru. Mae pobl sydd â diabetes chwe gwaith yn fwy tebygol o farw o’r ffliw.
Er yn ifanc yn ei ugeiniau, roedd Joseph Sullivan yn “ddifrifol wael” gyda’i salwch. Mae prif nyrs rhaglen frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i atgoffa pobl ifanc y gallai’r ffliw effeithio arnyn nhw hefyd.
“Pan ni’n ifanc ‘dyn ni’n meddwl ‘Fi’n ifanc, dyw ffliw dim byd ond annwyd fydd e ddim yn poeni fi, fi’n ddigon iach i amddiffyn fy hunan oddi wrtho fe,’ meddai Hawys Youlden wrth siarad â Newyddion S4C.
“Ond yn anffodus da ni byth yn gwybod sut mae ffliw yn mynd i fihafio, mae’n feirws eitha’ tricky a dyna pam os ydyn ni’n gymwys mae’n bwysig ein bod yn mynd ymlaen i gael ein brechu.”
Symptomau
Roedd Joseph Sullivan wedi dioddef symptomau’r ffliw am bron wythnos cyn iddo benderfynu mynd i adran frys Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.
Dywedodd fod staff yr ysbyty wedi “gweld ar unwaith fy mod i’n sâl.”
“O’n i’n edrych yn llwyd. Dwi’n ofni beth fyddai wedi digwydd pe na bawn i wedi mynd i’r ysbyty pan es i,” meddai.
Ar ôl iddo gael triniaeth, fe gafodd Mr Sullivan ei ryddhau o’r ysbyty 24 awr yn ddiweddarach. Ond parhaodd symptomau’r ffliw am sawl wythnos wedi hynny, meddai.
“O’n i’n sâl am nifer o wythnosau. Fe wnes i golli llawer o bwysau a doeddwn i ddim yn teimlo fel bwyta.
“Nes i ddim codi o’r gwely o gwbl ar Ddiwrnod y Nadolig.
“Byddwn i bendant yn cael fy mrechu a chael braich dost yn hytrach na mynd trwy be es i drwyddo eto.”
Brechu
Daw galwadau Joseph Sullivan wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru rybuddio pobl sy’n byw a chyflyrau hirdymor o beryglon ffliw, gan eu hannog i gael eu brechlynnau cyn y gaeaf.
Mae dros 467,000 o bobl yng Nghymru sy’n wynebu salwch difrifol pe bai nhw'n cael eu heintio â’r ffliw, gan gynnwys y rheiny sy’n byw ag asthma, COPD, diabetes neu glefyd anadlol.
Bydd pob plentyn oed ysgol yn cael cynnig y brechlyn ffliw eleni, yn ogystal â phlant 2 a 3 oed, pobl sy'n wynebu risg glinigol, pobl dros 65 oed a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen.
Covid-19
Mae’r gwasanaeth iechyd hefyd yn rhybuddio pobl am beryglon Covid-19, gan ddweud fod y feirws yn parhau i beri risg benodol i bobl sy’n byw â chyflyrau o’r fath.
Dywedodd Hawys Youlden: “I ni wedi gweld nawr bod patrwm Covid-19 wedi newid nawr o gymharu â dechrau’r pandemig lle oedd dim imiwnedd gyda neb i ddechrau ‘da oherwydd roedd e’n feirws newydd.
“Ond nawr gyda’r brechlynnau i bawb dros cyfnod y pandemig, ac wedyn hefyd pobl wedi cael y feirws, mae hwnna wedi rhoid rhyw fath o imiwnedd iddyn nhw, fel arfer am cyfnod bach."
Dywedodd hefyd bod patrwm y feirws wedi newid gan olygu nad yw wedi bod mor ddifrifol.
Ond ychwanegodd bod ystadegau diweddar yn awgrymu mai pobl â chyflyrau hirdymor, bobl dros 65 mlwydd oed a'r rhai mewn cartrefi gofal sy'n cael ei taro'n wael â Covid, yn bennaf.