Newyddion S4C

Ethan Ampadu allan am weddill 2024 wedi anaf 'difrifol' i'w ben-glin

Ethan Ampadu

Fe fydd Ethan Ampadu yn methu gweddill gemau Cymru eleni wedi anaf ‘difrifol’ i’w ben-glin wrth chwarae dros ei glwb Leeds United ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth rheolwr Leeds Daniel Farke gadarnhau ddydd Llun bod Ampadu, 24 oed, wedi anafu tennyn (ligament) yn ei ben-glin wrth chwarae yn erbyn Coventry City.

Dywedodd Farke y bydd yr anaf yn debygol o gadw'r chwaraewr, sydd fel arfer yn chwarae yng nghanol cae dros Gymru, allan tan fis Ionawr 2025. 

Ni fydd yn rhaid iddo gael llawdriniaeth ar yr anaf, wedi i feddygon argymell triniaeth arall, ychwanegodd.

Byddai hynny’n golygu y bydd yn absennol ar gyfer gweddill ymgyrch Cymru yng Nghynghrair Cenhedloedd UEFA.

“Mae’n anaf pen-glin difrifol, mae wedi dioddef difrod i dennyn ei ben-glin,” dywedodd Farke mewn cynhadledd i’r wasg.

“Mae’n anodd rhagweld pa mor hir y bydd yn methu chwarae ond mae’n realistig dweud y bydd yn gorfod aros am 10 wythnos hyd nes ei fod yn gallu dychwelyd i ymarfer gyda gweddill y tîm.

“Fe allai hynny fod ychydig mwy neu lai, yn ddibynnol ar sut mae’n gwella. Ar y funud, 'dw i’n disgwyl efallai ei weld yn ôl yn ymarfer yn ystod mis Rhagfyr, ond bydd angen iddo ymarfer gyda’r tîm ychydig cyn ei fod ar gael i chwarae eto.

“Rwy’n disgwyl ei weld yn ôl yn chwarae rywbryd yn ystod mis Ionawr.”

Bydd tîm Craig Bellamy yn chwarae oddi cartref yn erbyn Gwlad yr Iâ a chartref yn erbyn Montenegro fis Hydref, cyn y ddwy gêm olaf yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Tachwedd, yn erbyn Twrci a Gwlad yr Iâ unwaith eto.

Fe fydd carfan Cymru ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad yr Iâ a Montengro fis nesaf yn cael ei chyhoeddi ddydd Mercher.

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.