Newyddion S4C

Cyfnod ymgynghori allai olygu 'uno' rhai ysgolion Sir Conwy

30/09/2024
Ysgol Glan Gele

Fe allai rhai o ysgolion cynradd Sir Conwy uno fel rhan o gynlluniau i arbed arian. 

Mae aelodau pwyllgorau addysg Cyngor Conwy wedi cytuno i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn trafod cynlluniau i gyfuno pedair ysgol yn ddwy tra'n gosod dwy arall o dan yr un rheolaeth. 

Pe bai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddai'n effeithio ar chwe ysgol – gan gynnwys dwy ysgol wledig yn Nyffryn Conwy, dwy yn Abergele, a dwy arall ym Mae Cinmel.

Daw wedi i Gyngor Conwy dorri 5% oddi ar gyllidebau addysg yn gynharach yn y flwyddyn, a chael gwared â 51 o swyddi yn ystod yr haf. 

Petai'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, mi fydd Cyngor Conwy yn cyfarfod er mwyn trafod y posibilrwydd o gyfuno Ysgol Glan Gele gydag Ysgol Sant Elfod yn Abergele, yn ogystal â chyfuno Ysgol Y Foryd ac Ysgol Maes Owen ym Mae Cinmel. 

Mi fyddan nhw hefyd yn trafod y posibilrwydd o osod Ysgol Llanddoged ger Llanrwst ac Ysgol Ysbyty Ifan ym Metws y Coed o dan yr un rheolaeth, gan olygu y bydd safle’r ysgolion yn parhau yn yr un lleoliad ond eu bod yn rhannu’r un corff llywodraethu a strwythur rheoli. 

Mae’r ysgolion cyfrwng Cymraeg hynny eisoes yn rhannu’r un pennaeth. 

Byddai creu “ffederasiwn” ar gyfer y ddwy ysgol yn golygu y byddan nhw’n cadw eu “cymeriad, enw, categori, cyllideb, staff, a gwisg ysgol” eu hunain, medd adroddiad y pwyllgor. 

Mae ysgolion Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod wedi’u lleoli ar yr un safle yn Abergele, tra bod Ysgol Y Foryd ac Ysgol Maes Owen ar yr un safle ym Mae Cinmel. 

Mi fyddai’r cynlluniau i “uno’r” ddwy ysgol yn Abergele a’r ddwy ysgol ym Mae Cinmel yn golygu y byddai adeiladau’r ysgolion yn parhau yn yr un safle ond eu bod yn mynd trwy’r broses ffurfiol a chyfreithiol o ddod yn un ysgol.   

Mae disgwyl i gabinet Cyngor Conwy drafod y cynlluniau yn llawn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.