Ymchwiliad heddlu ar ôl canfod corff ar draeth poblogaidd
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl i gorff gael ei ganfod ar draeth poblogaidd yn ne Cymru.
Roedd nifer o swyddogion wedi eu gweld yn chwilio uwchben ac ar draeth Rhosili ar Benrhyn Gŵyr dydd Sadwrn.
Dywedodd y llu eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff a bod y person wedi marw yn y fan a’r lle.
Dywedodd yr heddlu: “Cafodd Heddlu De Cymru eu galw ychydig cyn 11:45 dydd Sadwrn Rhagfyr 21 i adroddiadau bod corff ar draeth Rhosili ym Mhenrhyn Gŵyr.
“Cyhoeddwyd bod y person wedi marw yn y fan a’r lle. Nid oes adnabyddiaeth ffurfiol wedi digwydd eto ac mae ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau.”
Llun: Croeso Bae Abertawe