Newyddion S4C

Strictly: Y BBC yn ymddiheuro ond yn gwrthod rhai cwynion

Amanda Abbington

Mae'r  BBC wedi ymddiheuro i'r actor Amanda Abbington gan gydnabod bod sail i rai o'i chwynion yn erbyn ei phartner ar Strictly Come Dancing yn 2023, Giovanni Pernice. 

Ond mae'r Gorfforaeth wedi gwrthod y cyhuddiadau mwyaf difrifol yn ei erbyn

Yn adnabyddus am ei rhan yn y gyfres Sherlock, fe adawodd Amanda Abbington y gyfres y llynedd, gan nodi iddi wneud hynny oherwydd "rhesymau personol". 

Yn ddiweddarach, honnodd fod "amgylchedd gwenwynig" yno a "bwlio amhriodol a chreulon".

Yn gynharach eleni, daeth cyhoeddiad y byddai adolygiad yn cael ei gynnal, er mwyn ystyried cwynion Ms Abbington yn erbyn ei phartner dawnsio Giovanni Pernice.

Dyw Mr Pernice ddim yn rhan o'r criw dawnsio proffesiynol ar gyfres Strictly eleni, ac mae e bellach wedi ymuno â sioe ddawnsio Eidalaidd. 

Ar y pryd, gwrthododd unrhyw awgrym iddo ymddwyn yn "fygythiol neu iddo "gamdrin" ei bartner.  

Ymddiheuro 

Ddydd Llun, dywedodd y BBC: "Rydym wedi asesu'r cwynion, ac rydym yn derbyn bod sail i rai o'r cwynion ond nid pob un. 

"Rydym eisiau ymddiheuro i Amanda Abbington, a diolch iddi am ddod ymlaen a chymryd rhan.  

“Ar y pryd, er bod y tîm cynhyrchu wedi cymryd camau i ddelio â materion, yn ôl eu dealltwriaeth nhw - doedd hynny ddim yn ddigon. Dyna pam fod y camau rydym wedi ei cymryd i gryfhau ein canllawiau presennol nor bwysig".   

Wrth ymateb i hynny dywedodd Amanda Abbington bod yr ymddiheuriad yn gydnabyddiaeth o'i chwyn, a'i bod yn ystyried cyfarfod ag uwch reolwyr y BBC, ar ôl iddyn nhw estyn gwahoddiad iddi. 

"Mae hyn yn gydnabyddiaeth ar gyfer pobl eraill sydd wedi cysylltu â fi, ers i mi gwyno, wrth iddyn nhw fynegi eu pryderon nhw hefyd am eu profiadau ar Strictly Come Dancing", meddai.

" Rwy'n gobeithio y gall eraill sydd ddim wedi llwyddo i siarad hyd yn hyn, deimlo yn fwy hyderus bellach y bydd bobl yno i wrando a'u credu."

Dywedodd llefarydd ar ran Giovanni Pernice ei fod yn "falch nad yw adolygiad y BBC wedi darganfod unrhyw dystiolaeth o ymddygiad bygythiol neu arwyddion o gamdrin".

Dychwelodd cyfres Strictly ar 14 Medi, gyda chriw newydd o enwogion, yn cynnwys y Cymro Wynne Evans. 

Mae rhai newidiadau wedi eu cyflwyno, ac mae bobl yn goruchwylio bellach yn ystod ymarferion.  

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.