Ysgol Dyffryn Aman: Llys yn clywed bod merch wedi dweud ‘dw i yn mynd i dy ladd di’
Ysgol Dyffryn Aman: Llys yn clywed bod merch wedi dweud ‘dw i yn mynd i dy ladd di’
Mae llys wedi clywed bod merch wedi gweiddi ‘mi wna i dy f****ng ladd di’ fwy nag unwaith wrth ymosod ar athrawon a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman.
Daw wrth i achos llys y ferch 14 sydd wedi ei chyhuddo o drywanu dwy athrawes yn Ysgol Dyffryn Aman ddechrau yn Llys y Goron Abertawe Llun.
Nid oes modd cyhoeddi ei henw o achos ei hoedran.
Mae’r ferch yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.
Plediodd yn euog i’r cyhuddiadau llai o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol mewn gwrandawiad fis diwethaf.
Clywodd y llys bod yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin a disgybl wedi eu hanafu yn y digwyddiad ar 24 Ebrill.
Ddydd Llun amlinellodd William Hughes KC yr achos yn erbyn y ferch.
Dywedodd bod y digwyddiadau wedi eu gweld gan nifer o aelodau o staff a disgyblion, ac wedi eu dal ar gamera cylch cyfyng a ffonau symudol.
Roedd y ferch wedi edrych ar Fiona Elias gyda golwg “sinistr” yn ei llygaid cyn i’r ferch ofyn “Hoffech chi weld beth sydd yn fy mhoced?” meddai.
Gwyliodd y rheithgor fideo o’r ymosodiad cychwynnol, a’r ymosodiad ar y disgybl rai munudau yn ddiweddarach.
Fe ddywedodd y ferch “mi wna i dy f***ng ladd di” cyn ymosod ar Fiona Elias ac yna eto'r disgybl, meddai’r erlyniad.
Wrth gael ei chludo i orsaf yr heddlu yn Llanelli gofynnodd: ‘Ydyn nhw wedi marw?’
Ychwanegodd: "Dw i'n eitha' sicr y bydd hyn ar y newyddion. Felly bydd mwy o lygaid yn edrych arna i. Dyna un ffordd i fod yn enwog.”
Yn ddiweddarach daeth yr heddlu o hyd i lyfrau nodiadau oedd yn cynnwys enwau'r disgybl a Fiona Elias, lluniau a iaith dreisgar.
Dywedodd William Hughes KC fod y ferch yn "amlwg ddim yn hoffi" y ferch ysgol arall na chwaith Fiona Elias "o ystyried cynnwys y darluniau a’r geiriau cysylltiedig".
Dywedodd yr erlynydd mai Ms Hopkin oedd wedi ei hanafu waethaf. Bu'n rhaid iddi gael ei hedfan i Gaerdydd lle cafodd driniaeth am glwyfau trywanu i'w phen-glin, rhan isaf ei choes, ei brest ac o dan lafn ei hysgwydd. Roedd y clwyf gwaethaf i'w gwddf.
Aed â Mrs Elias a'r ferch yn ei harddegau i'r ysbyty yn Abertawe, ac fe wnaethon nhw hefyd dderbyn triniaeth am glwyfau trywanu.
Ymddangosodd y ferch, oedd yn gwisgo crys gwyn, gwasgod ddu a thei du, gan eistedd yn y llys yn hytrach na’r doc.
Bydd yr achos llys yn parhau ddydd Mercher, a mae disgwyl iddo barhau hyd nes diwedd yr wythnos nesaf.
Roedd William Hughes KC a Helen Randall yn cynrychioli’r erlyniad, a Caroline Rees KC gan ymddangos yn rhithiol a James Hartson yn cynrychioli’r amddiffyniad.