Newyddion S4C

Teyrnged i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint

30/09/2024
Simon Paul Williams a fu farw mewn gwrthdrawiad yn Rhydymwyn

Mae teulu dyn 33 oed a fuodd farw mewn gwrthdrawiad yn Rhydymwyn ger Yr Wyddgrug wedi rhoi teyrnged iddo.

Mae'r deyrnged yn dweud bod Simon Paul Williams wedi marw yn Ysbyty Aintree "wedi ei amgylchynu gan deulu a ffrindiau" ddydd Iau 12 Medi.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i wrthdrawiad rhwng car a beic modur ar ffordd yr A541 toc wedi 14:00 ddydd Mawrth Medi 10.

Cafodd Simon Paul Williams ei gludo i Ysbyty Aintree mewn ambiwlans awyr ond bu farw yno.

"Mae'n gadael mam, dau frawd a chwaer yng nghyfraith a'i deulu estynedig," meddai'r deyrnged. 

Llun: Heddlu Gogledd Cymru 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.