Newyddion S4C

Ysgol Uwchradd yn cau ei chyfri X

30/09/2024
Ysgol Glantaf

Mae ysgol uwchradd yng Nghaerdydd wedi dweud ei bod yn cau ei chyfri ar X ddiwedd mis Hydref.

Yn ôl y neges ar y cyfrwng cymdeithasol mae Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf wedi dod i'r penderfyniad am "nad yw'r yw’r llwyfan hon yn adlewyrchu gwerthoedd Glantaf".

Mae'r neges yn dweud ei bod wedi symud ei chyfri i'r cyfrwng Instagram ac na fyddant yn "rhannu gweithgaredd" ar X bellach.

Mae'r cyfrwng yn cael ei weld fel un dadleuol ers i'r dyn busnes Elon Musk brynu'r wefan yn 2022.

Ers hynny mae unigolion sydd yn cael eu gweld fel eithafwyr wedi cael hawl i ddefnyddio'r wefan unwaith eto ac mae Elon Musk ei hun wedi gwneud sylwadau dadleuol am amryw o bynciau. 
 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.