Pam bod mwy o glybiau Cymru eisiau chwarae yng Nghwpan Cynghrair Cymru?
Mae clybiau Cymru sydd yn chwarae yng nghynghrair Lloegr wedi cynnal trafodaethau er mwyn cael chwarae yng nghystadleuaeth Cwpan Cynghrair Cymru sef Cwpan Nathaniel MG.
Mae clybiau Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd i gyd yn chwarae yng nghynghreiriau Lloegr sef yr EFL, yn ogystal â Chwpan yr EFL a Chwpan yr FA.
Ond maen nhw wedi cyflwyno eu gweledigaeth ar y cyd - Prosiect Cymru, i Gymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), corff llywodraethu UEFA, Uwch Gynghrair Lloegr a'r Cymru Premier gyda'r gobaith o chwarae yng Nghwpan Nathaniel MG.
Pam bod y clybiau hyn wedi cyflwyno'r cynnig?
- Mae enillydd Cwpan Nathaniel MG yn ennill lle yng Nghyngres Europa, cystadleuaeth Ewropeaidd.
- Pe bai'r clybiau yn cystadlu yng Nghwpan Nathaniel MG, fe fyddai hynny'n golygu na fyddent yn gallu cymhwyso ar gyfer cystadlaethau Ewrop trwy gystadlaethau Lloegr, fel gwnaeth Abertawe. Fe enillodd yr Elyrch Cwpan yr EFL yn 2013.
- Fe fyddai "buddiannau ariannol" a fyddai'n cael eu rhannu ar draws clybiau domestig a llawr gwlad Cymru, yn ôl adroddiad a gomisiynwyd gan Abertawe ar ran y pedwar clwb a CBDC .
- Fe allai Cymru godi yn rhestr detholion UEFA, sydd yn golygu mwy o glybiau yn cystadlu yn Ewrop. Pe bai hyn yn digwydd ni fyddai clybiau'r EFL yn cymryd lle un o glybiau domestig Cymru yn Ewrop.
Sut mae pobl wedi ymateb?
- Mae clybiau'r Cymru Premier yn cefnogi'r cynnig, yn ôl BBC Sport Wales.
- Ar y cyfryngau cymdeithasol mae cefnogwyr Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd yn gefnogol hefyd, gan nodi'r prif reswm fel gweld eu clwb yn cystadlu yn erbyn timoedd mwyaf Ewrop.
- Ymysg cefnogwyr clybiau'r Cymru Premier JD, mae'r farn yn gymysg.
- Mae rhai yn dweud nad yw'n deg bod clybiau'r EFL yn elwa o gystadleuaeth ddomestig gwlad nad ydyn nhw'n cystadlu ynddi.
- Mae eraill yn dadlau byddai'r buddiannau ariannol a'r cyfle i wella safle Cymru yn rhestr detholion UEFA yn gallu gwella safon y gynghrair.
Oes gobaith i glybiau Cymru wneud yn dda yn Ewrop?
- Byddai posibilrwydd i Gymru sicrhau cynrychiolaeth yn Ewrop bob blwyddyn pe bai clybiau'r EFL yn cystadlu yng Nghwpan Nathaniel MG.
- Mae safon clybiau'r EFL yn well na'r Cymru Premier, gan olygu byddai mwy o gyfle ganddynt yn y rowndiau rhagbrofol i ennill yn erbyn timoedd gwledydd eraill.
- Mae gan glybiau'r Cymru Premier hanes o berfformio'n wael yn cymhwyso ar gyfer cymal grwpiau cystadleuaeth Ewrop- eleni yw'r tro cyntaf i hyn ddigwydd gyda'r Seintiau Newydd yn cyrraedd rownd grwpiau Cyngres Europa.
- Yn y gorffennol mae clybiau Cymru yn yr EFL wedi chwarae timoedd mwyaf y byd yn Ewrop. Enillodd Caerdydd yn erbyn Real Madrid yn 1971 ac mae Abertawe wedi curo Valencia.
Llun: Asiantaeth Huw Evans