Newyddion S4C

Abertawe: Menyw 20 oed wedi ei hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad

29/09/2024
abertawe

Mae Heddlu'r De yn ymchwilio i "wrthdrawiad difrifol" a ddigwyddodd ar Heol Brynymor ar y gyffordd â Heol y Brenin Edward yn Abertawe ychydig cyn 00:30 fore dydd Sul. 

Roedd y gwrthdrawiad rhwng Honda Civic a cherddwr.  

Cafodd y fenyw 20 oed oedd yn cerdded ei chludo i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiad gydag anafiadau difrifol, ond nid ydynt yn bygwth ei bywyd.

Dywedodd PC Ross McGrath o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Hoffem glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, gan gynnwys y dull o yrru cyn y ddamwain, neu sydd ag unrhyw ffilm camera cerbyd o’r digwyddiad.

“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r aelodau hynny o’r cyhoedd a helpodd swyddogion yn y fan a’r lle.”

Mae'r heddlu'n gofyn i bobl sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2400324649.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.