Apêl wedi lladrad mewn clwb rygbi yng Ngwynedd
29/09/2024
Mae clwb rygbi yng Ngwynedd yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad yno.
Dywed Heddlu'r Gogledd fod swyddogion yn ymchwilio i fyrgleriaeth a ddigwyddodd yng Nghlwb Rygbi Pwllheli, Efailnewydd rhwng 21:45 ar ddydd Mercher 25 Medi a a 17:30 dydd Iau 26 Medi.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld unrhyw beth amheus yn ardal y Clwb Rygbi rhwng y dyddiadau uchod i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod Q145908.
Mae swyddogion hefyd yn apelio ar unrhyw un yn yr ardal ehangach a allai fod â Dashcam, cloch y drws neu luniau teledu cylch cyfyng i gysylltu gyda nhw.
Llun: Google