Rhybudd melyn am law i rannau o'r gogledd
30/09/2024
Mae rhybudd melyn am law mewn grym i rannau o'r gogledd ddydd Llun.
Mae'r rhybudd wedi bod mewn grym ers 00:30 ac fe fydd yn parhau tan 20:00.
Daw'r rhybudd wedi penwythnos o gawodydd trwm a gwynt i'r rhan helaeth o Gymru.
Dywed y Swyddfa Dywydd fod posibilrwydd o lifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, gydag oedi i wasanaethau bws a thrên hefyd yn debygol.
Mae disgwyl 20-40mm o law mewn rhai ardaloedd ag hyd at 60mm mewn ardaloedd eraill yn ystod y diwrnod.
Bydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Wrecsam