'Peidiwch bod ofn siarad am Nansi hefo ni': Cwpl o Fôn yn galw am sgwrs agored am alar
'Peidiwch bod ofn siarad am Nansi hefo ni': Cwpl o Fôn yn galw am sgwrs agored am alar
Cynnwys sensitif: Mae'r erthygl hon yn trafod colli plentyn
Mae cwpl o Ynys Môn a gollodd eu merch fach ychydig oriau ar ôl iddi gael ei geni yn annog eraill i beidio bod ofn siarad gyda nhw am eu colled.
Fe gollodd Aled a Lisa Jên Thomas eu merch Nansi Jên ym mis Ionawr eleni.
Ar ôl colli Nansi, fe gafodd y teulu gyfle i fod gyda’i gilydd mewn ystafell i gynnig cymorth i rieni sy’n galaru yn Ysbyty Gwynedd.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Aled Thomas: “Oeddan ni’n hapus efo sut oeddan ni wedi cael ffarwelio. Oedd o’n gyfnod anodd ond cyfnod lle gafon ni 'neud hi yn berffaith.
“Mewn byd perffaith, fysa’r ystafell ddim yn cael defnydd o gwbl ond mae’r ffaith bod o yna, ag ella bod pawb yn delio efo galar mewn ffordd wahanol ond mae o’n bwysig bod yr ystafell yna ar gael os ydy o’n mynd i helpu, fel nath o yn bendant i ni."
Ychwanegodd Lisa Jên Thomas: "Fyswn i’n deud mai gadael ‘sbyty efo breichiau gwag oedd y peth gwaetha nawn ni byth."
'Galar fel tonnau môr'
Er yn anodd, mae Aled a Lisa wedi cael cysur mawr o siarad am eu galar.
“Dwi’n meddwl bo’ ni wedi dysgu peidio cau fyny. Os wyt ti’n teimlo fel bo’ chdi isio crio, gad o allan y diwrnod yna. Os ti’n flin un diwrnod, ma’ raid ti fynd efo fo," meddai Lisa.
“Oedd rywun yn deutha fi ryw dro bod galar fel tonnau môr a mae o mor wir. Yn aml iawn erbyn hyn yn lwcus, ma’r dyddia anodd yn para llai, ma’r dyddia da yn fwy.
“Ond mae o fel y môr yn dawel bach, weithia ddaw ‘na storm i dorri ar y môr a fel ‘na fydd hi am byth yn anffodus.”
Aeth Lisa yn ei blaen i ddweud: "Ma'i rannu fo, ond yn fwy na rhannu teimladau, ma' rhannu hi - 'dan ni mor barod i rannu ei stori hi a ma' hynna'n help i ni gadw hi yn fyw a chadw ei henw hi i fynd.
"Bod 'na ddim cywilydd mewn siarad ag agor allan. Weithia yn y cychwyn dwi'n cofio os oeddan ni'n cael diwrnod da, fyddan ni'n teimlo'n euog am gael diwrnod da ag am fod yn iawn. Ma'n iawn i deimlo'n iawn hefyd. Peidio bod ofn ag euog teimlo unrhyw deimlad."
Ychwanegodd Aled: "Ma' isio gafal ar y dyddia yna a dim otsh sut ti'n teimlo, dydy o ddim yn golygu bo' ni'n caru Nansi dim llai."
'Meddwl y byd'
Mae Aled a Lisa yn annog pobl i gynnal sgwrs agored gyda’r ddau er mwyn chwalu’r stigma.
"Dio ddim yn dod o le drwg jyst matar o ddim yn gwbod ffordd i gychwyn trafod o ydi o dwi'n meddwl," meddai Aled.
“Pan ma’ rywun yn dod fyny aton ni yn gofyn ‘Sut yda chi?’, ‘dan ni’n cael cysur o hynna."
Ychwanegodd Lisa: “Hyd yn oed yn aml iawn lot o bobl yn deud ‘Ylwch, dwi ddim yn gw’bod be i ddeud.' Yn aml iawn, does na ddim byd fedar neb ddeud nagoes a ma’ hynny yn ddigon bron.
“Torri rhew i lot o bobl ydy o, jyst deud ‘Ylwch, dwi ddim yn gw’bod be i ddeud ond dwi jest isio chi wbod bo’ ni’n meddwl amdanoch chi’ a bron dydyn nhw ddim angen sôn amdana fo eto wedyn, jest gofyn sut yda chi.
“Fyswn i yn annog pobl, os yda chi’n gw’bod am rywun sydd wedi colli, jyst i checio mewn, gofyn sut ma’ nhw...ma’n meddwl y byd.”
Mae angen ‘cofio am y tadau hefyd’ yn ôl Lisa.
"Yn aml iawn, ma' rywun yn meddwl am y fam ond ma'r ddau ohona ni wedi colli rhan mawr iawn iawn ohona ni'n dau," meddai.
"Ma' rei pobl, dydy o ddim yn dod o le gwael, ond ma nhw'n dueddol o frwsio heibio teimladau'r tad a dwi yn meddwl bod o'n bwysig bod tadau yn agor allan a peidio bod ofn siarad."
Mae’r profiad wedi rhoi ‘nerth’ i’r ddau barhau â’u bywyd.
“Mewn ffordd wahanol, ma’ Nansi wedi ysbrydoli ni’n dau, ma’ hi ‘di neud rwbath mewn cyfnod byr iawn yn anoddach na be’ ‘dan ni wedi gorfod neud," meddai Aled.
“Os ydy hi yn gallu ymladd am ei bywyd fel ‘na, mae o wedi rhoi nerth i ni i gario mlaen. Troi sefyllfa ddrwg i drio cael nerth a byw bywyd i'r eithaf iddi hi."