GWYLIWCH: Dihangfa lwcus i gôr meibion ar ôl i'w bws fynd ar dân
29/09/2024
GWYLIWCH: Dihangfa lwcus i gôr meibion ar ôl i'w bws fynd ar dân
Fe gafodd côr meibion ddihangfa lwcus ar y ffordd adref o eisteddfod nos Sadwrn, ar ôl i'w bws fynd ar dân.
Roedd Bechgyn Bro Taf wedi bod yn cystadlu yn Eisteddfod Llanwrtyd ac yn teithio adref ar hyd ffordd yr A470 cyn i'r tân gychwyn yn oriau mân bore Sul.
Bu'n rhaid cau'r ffordd rhwng y troead am Ddefynnog ger Libanus a Hirwaun am gyfnod.
Ni chafodd aelodau'r côr unrhyw niwed ac fe wnaethant deithio am adref yn ddiweddarach ar fws arall.
Cafodd y gwasanaeth tân ei alw am 03.27 ond roedd y cerbyd wedi ei losgi'n ulw.
Fe wnaeth gweithwyr y cyngor dacluso safle'r tân yn ddiweddarach ar ôl i'r gwasanaeth tân adael am 03.54.