Gorffen cynhyrchu dur drwy ddull traddodiadol ym Mhort Talbot
Gorffen cynhyrchu dur drwy ddull traddodiadol ym Mhort Talbot
Mae'r ffwrnais chwyth olaf yng ngwaith dur Port Talbot wedi cael ei diffodd ddydd Llun, meddai Tata Steel.
Roedd modd gweld stêm yn dod o'r ffwrnais am y tro olaf toc wedi 17.00, gan ddod â chynhyrchu dur yn y ffordd draddodiadol i ben yng Nghymru.
Roedd Tata Steel eisoes wedi cau un o'r ffwrneisi chwyth ar y safle.
Mae disgwyl i dros 2,000 o swyddi gael eu colli ym Mhort Talbot o ganlyniad i'r newid i ddefnyddio system gynhyrchu arc trydan.
Yn ei anterth yn ystod y 1960au, roedd mwy na 18,000 o bobl yn cael eu cyflogi yno.
Ond mae'r safle wedi mynd trwy sawl cyfnod o newid, sydd weithiau wedi arwain at streiciau a chwtogi ar swyddi.
Prynodd y cwmni Indiaidd Tata y gwaith dur yn 2007.
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU y bydd yn cyfrannu £500 miliwn at y gwaith. Ond maent wedi dweud y gallen nhw hawlio’r buddsoddiad yn ôl os nad yw cwmni Tata Steel yn cadw 5,000 o swyddi.
Fe fydd y cwmni’n ailddechrau cynhyrchu dur ar y safle yn 2027.
Fe wnaeth Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth y DU gyfaddef ddechrau Medi bod cytundeb newydd £500m ar gyfer gwaith dur Tata Steel “yn syrthio’n fyr o’r hyn fyddai’n ddelfrydol” ar gyfer gweithwyr Port Talbot.
Ond dywedodd Jonathan Reynolds ei fod yn teimlo bod y llywodraeth “wedi gwneud mwy o gynnydd dros y ddeufis diwethaf nag yn ystod y senedd ddiwethaf”.
Mae’r cynllun newydd yn cynnig pecyn colli gwaith i weithwyr a phecyn sy’n cynnig eu haddysgu â sgiliau newydd.
'Diwrnod trist'
Wrth ymateb i gau'r ffwrnais ym Mhort Talbot ddydd Llun, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Community Roy Rickhuss CBE: "Mae heddiw yn nodi diwrnod trist a theimladwy ar gyfer y diwydiant dur ym Mhrydain ac i'r cymunedau yn ac o gwmpas Port Talbot sydd mor gysylltiedig â gwaith dur.
"Mae hefyd yn foment o rwystredigaeth enfawr - yn syml, doedd ddim angen i bethau fod fel hyn.
"Mae cau Ffwrnais Chwith 4 yn ddiwedd cyfnod, ond nid dyma'r diwedd i Bort Talbot. Ni fyddwn ni fyth yn rhoi'r gorau i frwydro dros ein diwydiant dur ac ein cymunedau ni yn Ne Cymru."
Gall busnesau lleol yn y gadwyn gyflenwi wneud cais i gronfa sy’n rhan o becyn cyffredinol o £80 miliwn gan Lywodraeth y DU.
Bydd y gronfa yn cael ei darparu drwy bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Busnes Cymru drwy Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, sy’n gadeirydd bwrdd pontio Port Talbot bod y gronfa o £13.5 miliwn wedi ei sefydlu yn gyflym pan ddaeth Llywodraeth newydd y DU i rym.
“Rwy’n annog busnesau yr effeithir arnynt i ddod ymlaen a gwirio a ydynt yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol hwn, fel rhan o’r pecyn cymorth ehangach yr ydym yn ei roi ar waith. Bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi gweithwyr a busnesau beth bynnag fydd yn digwydd.”
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo llywodraethau yn San Steffan a Bae Caerdydd o "fethu â datblygu strategaeth ddiwydiannol".
Dywedodd llefarydd y blaid ar yr Economi, Luke Fletcher AS: "Mae’n siomedig tu hwnt bod y ddwy blaid yn San Steffan wedi caniatáu i hyn ddigwydd. Ni allwn adael i’r drasiedi hon ddiffinio dyfodol ein heconomi; rhaid inni nawr gynllunio ar gyfer adfywiad ein diwydiant dur a’r swyddi medrus iawn y mae’n eu darparu".