Pêl-droed: Abertawe yn penodi Vitor Matos yn brif hyfforddwr newydd
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi penodi Vitor Matos yn brif hyfforddwr newydd y clwb.
Bydd yr hyfforddwr 37 oed o Bortiwgal yn rheoli ei gêm gyntaf gyda'r Elyrch yn erbyn Derby County nos Fawrth.
Daw ei benodiad wedi i'r clwb ddiswyddo Alan Sheehan ar 11 Tachwedd.
Mae Matos yn ymuno o glwb Marítimo sydd yn ail haen Portiwgal.
Dywedodd y prif hyfforddwr newydd ei fod eisiau gweld y clwb yn dychwelyd i'w "DNA."
"Yn fy marn i mae gan Abertawe ffordd benodol o chwarae, rhywbeth sydd yn wahanol i'r clybiau eraill," meddai.
"Rhywsut mae'r clwb wedi symud i ffwrdd o'r "DNA" hwnnw, ac mae angen i ni ddychwelyd ato,
Gweledigaeth
“Felly fe fydd yn cymryd ychydig o amser, ond rwy'n credu'n gryf y gallwn ni gymryd camau i'r cyfeiriad cywir.
“Ar gyfer hynny, bydd angen i bawb, y clwb cyfan, yr holl gefnogwyr a ni fel chwaraewyr a hyfforddwyr gael yr un weledigaeth.
“Dyna dwi ei eisiau. Rwy'n gweld bod y cefnogwyr yn dal i gefnogi a gwthio'r tîm, ac rwy'n gweld chwaraewyr sydd eisiau newid y momentwm ac mae angen i ni ddod o hyd i'r weledigaeth gywir i wneud hynny.
“Dyna'r peth pwysicaf. Mae'n amlwg bod angen i ni ennill gemau a phwyntiau, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar y broses."
Gweithiodd Matos yn nhîm ieuenctid Porto cyn ymuno â staff Lerpwl gyda Jurgen Klopp yn 2019.
Treuliodd bum mlynedd yn Anfield cyn gadael yr un pryd â Klopp a'r rheolwr cynorthwyol Pep Lijnders yn 2024.
Yna ymunodd Matos â Red Bull Salzburg fel rheolwr cynorthwyol i Pep Lijnders, ond cafodd y ddau eu diswyddo gan y clwb o Awstria ar ôl chwe mis yn unig wrth y llyw.
Mae Abertawe yn safle 20 yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd wedi iddyn nhw golli 3-0 yn erbyn Bristol City dros y penwythnos.
