Bangor: Myfyrwraig 18 oed wedi ei darganfod yn farw yn ei hystafell ar ôl noson allan - cwest
Mae agoriad cwest wedi clywed bod myfyrwraig 18 oed wedi ei darganfod yn farw yn ei hystafell wely mewn neuadd breswyl ym Mangor ar ôl noson allan gyda'i ffrindiau.
Fe gafodd cwest i farwolaeth Poppy Annabel Johnson o Hull yn Sir Efrog ei agor yng Nghaernarfon ddydd Llun.
Clywodd y cwest bod y ferch 18 oed wedi cael ei darganfod yn farw yn ei hystafell mewn neuadd breswyl ar Ffordd Ffriddoedd ym Mangor ar 16 Tachwedd.
Cafodd ei chorff ei darganfod gan staff diogelwch wedi pryderon amdani.
Dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson bod ganddi "reswm i amau bod ei marwolaeth yn annaturiol."
Cafodd y cwest ei gohirio wrth i ymchwiliadau'r heddlu barhau.
