Cau un lôn ar Bont y Borth am bum niwrnod
Bydd un lôn ynghau ar Bont y Borth am bum niwrnod, er mwyn cynnal gwaith cychwynnol cyn mynd ati i'w hatgyweirio yn ddiweddarach.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd un lôn ynghau o ddydd Iau 27 Tachwedd tan ddydd Mercher 3 Rhagfyr, ar ddyddiau'r wythnos yn unig, rhwng 07:30 a 17:00.
Ni fydd mesurau rheoli traffig mewn grym ar y penwythnos.
Dywedodd y Llywodraeth: "Bydd amserlenni ar gyfer gosod yr atgyweiriad parhaol yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddynt gael eu cadarnhau gyda UK Highways A55 Limited.
"Diolch am eich amynedd wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud."
Cafodd Pont y Borth, sef un o ddwy bont sy'n cysylltu Ynys Môn a'r tir mawr, ei chau ar frys ar 4 Hydref oherwydd problemau yn ymwneud â'r trawstiau arni. .
Daeth y penderfyniad i gau’r bont ar ôl i Lywodraeth Cymru ddilyn "cyngor brys" gan beirianwyr strwythurol, wedi i archwiliad ddarganfod bod angen gosod bolltau newydd ar y trawstiau.
Cafodd y bont ei hail-agor yn rhannol ar 7 Hydref, cyn agor yn llwyr ar 24 Hydref.
