Y canwr Mike Peters yn gwella ar ôl i'w ganser ddychwelyd
Mae'r canwr Mike Peters wedi cyhoeddi ei fod yn gwella ar ôl i'w ganser ddychwelyd.
Cyhoeddodd prif ganwr The Alarm ym mis Ebrill fod ei ganser yn ôl.
Mewn datganiad ar wefan y band ym mis Ebrill, dywedodd: "Ar ddydd Sul, 21 Ebrill, fe wnes i ddeffro gyda gland wedi chwyddo ar ochr chwith fy ngwddf.
"Mae'r canlyniadau cynnar yn awgrymu fod fy Lewcemia Lymffocytig Cronig (CLL) wedi trawsnewid i fod yn Lymffoma Gradd Uchel."
Mae Mike Peters wedi byw gyda phroblemau iechyd am bron i 30 mlynedd, wedi iddo dderbyn ei ddiagnosis cyntaf o ganser yn 1995.
Yn 2006, sefydlodd yr elusen Love Strength Hope sydd yn hybu pobl i roi mêr esgyrn ar gyfer triniaeth canser.
Derbyniodd Mr Peters ei driniaeth yn Uned Ganser Gogledd Cymru. Fe wnaeth gytuno i gymryd rhan mewn treial clinigol oedd yn ymchwilio i gyfuniad therapi wedi ei dargedu o'r enw acalabrutinib gyda thriniaeth gemotherapi arferol.
Yn ffodus, mae'r driniaeth wedi gweithio ac fe ddangosodd sgan diweddar ei fod yn gwella.
'Ymateb anhygoel'
Mae meddygon bellach eisiau dod o hyd i roddwr addas fel bod modd i Mr Peters dderbyn trawsblaniad bôn-gell, a ddylai atal y lewcemia rhag dychwelyd.
"Mae gallu gwella yn llawn diolch i'r treial yma yn anhygoel," meddai.
"Dwi bellach angen dod o hyd i'r rhoddwr cywir ar gyfer y trawsblaniad bôn-gell, ac os ydy hynny yn llwyddiannus, a gyda chymorth anhygoel y tîm yn y Christie, mi fydda i gobeithio yn holliach am byth."
Fe ddiolchodd Mr Peters i'w gefnogwyr am roi hwb iddo. Dywedodd fod ei ddiagnosis ym mis Ebrill wedi arwain at "ymateb anhygoel" gyda "chefnogaeth arbennig gan ein cefnogwyr o bob cyfeiriad."
Ychwanegodd ei fod yn rwan yn edrych i'r dyfodol ac wedi bod yn benderfynol o "chwarae gigs a chanolbwyntio ar fy ngherddoriaeth".
Mae ei wraig, Jules Peters, hefyd wedi gwella ar ôl canser y fron, wedi iddi gael diagnosis wyth mlynedd yn ôl.