Codi'r cap pris ynni: Pa help sydd ar gael i mi?
Mae cartrefi ar draws Prydain yn wynebu costau ynni uwch y gaeaf hwn ar ôl i’r rheolydd godi ei gap prisiau o fis Hydref ymlaen.
Mae cap pris ynni Ofgem yn codi £149 o’r £1,568 y flwyddyn ar hyn o bryd ar gyfer cartref arferol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban - i £1,717.
Pam felly fod y cap pris ynni yn cynyddu a beth all pobl ei wneud i gadw cost eu biliau ynni i lawr? Dyma rai atebion i gwestiynau cyffredin:
– Beth yw cap pris Ofgem?
Mae’r cap ar brisiau ynni yn gosod uchafswm pris y gall cyflenwyr ynni ei godi ar ddefnyddwyr yng Nghymru, Lloegr a’r Alban am bob cilowat awr (kWh) o ynni y maent yn ei ddefnyddio.
Mae'r ffigurau gan Ofgem yn dangos yr hyn y gall cartref sy'n defnyddio nwy a thrydan, ac yn talu drwy ddebyd uniongyrchol, ddisgwyl ei dalu os yw eu defnydd o ynni yn weddol gyffredin.
Os yw'r defnydd ynni mewn cartref yn uwch na’r cyfartaledd bydd y bil yn fwy, ac os yw’n is fe fydd yn llai.
– Pam fod y cap pris yn codi?
Dywedodd Ofgem mai’r prif reswm pam ei fod wedi penderfynu cynyddu’r cap yw oherwydd y cynnydd mewn prisiau yn y farchnad ynni ryngwladol, sydd wedi’u hachosi gan densiynau gwleidyddol uwch a thywydd eithafol.
Dywedodd Jonathan Brearley, prif weithredwr Ofgem: “Mae prisiau nwy rhyngwladol – y nwy rydyn ni’n ei brynu i wresogi ein cartrefi ac i wneud yn siŵr bod gennym ni’r trydan sydd ei angen – wedi codi, ac mae hynny’n bwydo drwodd i’n biliau.
"“Yn y pen draw, tra ein bod ni’n ddibynnol ar nwy, fe fyddwn ni yn y sefyllfa yma lle mae prisiau’n codi i fyny ac i lawr,” meddai.
– Beth allaf ei wneud i ostwng fy miliau?
Dywedodd Mr Brearley ei fod yn annog pobol i “siopa o gwmpas” i weld a allan nhw gael gwell bargen ar eu tariff ynni.
“Am y tro cyntaf ers amser maith, rydyn ni’n gweld rhai bargeinion da yn dod i’r amlwg,” meddai.
“Byddwn yn annog pobl i siopa o gwmpas ac ystyried dewis a oes tariff sy'n iawn i chi - mae opsiynau ar gael a allai arbed arian i chi, tra hefyd yn cynnig sicrwydd cyfradd na fydd yn newid am gyfnod penodol.”
Dywedodd Martin Lewis, sylfaenydd MoneySavingExpert.com, y gall ac y dylai pobl “gynilo trwy newid” eu cyflenwr ynni, ac ystyried tariff ynni pris sefydlog.
“Mae’r cynnigion rhataf am flwyddyn o hyd ar y farchnad ar hyn o bryd tua 7% yn llai na chap pris newydd mis Hydref, ond efallai na fyddant o gwmpas yn hir,” rhybuddiodd.
– Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?
Galwodd Ofgem ar bobl i wneud y gorau o unrhyw fudd-daliadau gwladol y mae ganddynt hawl iddynt, a allai helpu i dalu biliau ynni yn ogystal â chostau byw ehangach.
Mae tua 1.4 miliwn o bensiynwyr eisoes yn cael credyd pensiwn, ond mae’r Llywodraeth yn amcangyfrif bod hyd at 880,000 o aelwydydd pellach yn gymwys i gael y cymorth ar gyfer y rheini sydd ar incwm isel.
Mae pobl sy'n derbyn credyd pensiwn yn gymwys i gael taliad tanwydd gaeaf gwerth hyd at £300, i helpu gyda'u biliau.
Yn flaenorol, gallai unrhyw un dros oedran pensiwn y wladwriaeth dderbyn y taliad, ond newidiwyd hyn gan y Llywodraeth newydd, gan olygu y bydd tua 10 miliwn o bensiynwyr ar eu colled eleni.
– Rwy’n meddwl y byddaf yn cael trafferth talu fy miliau, beth allaf ei wneud?
Mae pobl yn cael eu hannog i gysylltu â'u cyflenwr ynni os ydynt yn poeni am dalu eu biliau.
Mae'n ofynnol i gwmnïau ynni weithio gyda chwsmeriaid i gytuno ar gynllun talu y gallant ei fforddio, a allai olygu mwy o hyblygrwydd o ran sut ac ar ba amser y mae pobl yn talu.
Dylent gymryd i ystyriaeth incwm a gwariant pobl, dyledion ac amgylchiadau personol, ac amcangyfrif o faint o ynni a ddefnyddir yn y dyfodol.
Dywedodd Richard Lane, o’r elusen dyledion StepChange, ei bod yn “bryder y gallai codiad yn y cap pris arwain cartrefi sy’n ei chael hi’n anodd i ddyled ddyfnach”.
Galwodd ar Lywodraeth y DU i gyflwyno cymorth wedi’i dargedu ar gyfer y rhai sy’n cael yr anawsterau mwyaf.