'Gobeithio am newyddion da' wedi anaf i Ethan Ampadu
Mae rheolwr Leeds United wedi dweud ei fod yn gobeithio na fydd anaf i gapten y clwb Ethan Ampadu yn rhy ddifrifol.
Roedd yn rhaid i Ampadu adael y cae cyn hanner amser ym muddugoliaeth Leeds yn erbyn Coventry City o 3-0 ddydd Sadwrn.
Dywedodd Daniel Farke nad oedd yn credu fod yr anaf yn "rhy ddrwg" ond ei fod yn disgwyl asesiad pellach.
"Roedd yn eithaf positif ar ôl y gêm, dywedodd ei fod yn boenus ond nid yw'n credu ei fod yn rhy ddrwg," meddai.
"Dwi'n ofalus i fod yn rhy optimistig ar hyn o bryd oherwydd mae'n rhaid i ni ddisgwyl i gael asesiad pellach."
Roedd disgwyl i Ampadu gael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau Cynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gwlad yr Iâ a Montenegro ym mis Hydref.
Bydd Craig Bellamy yn cyhoeddi ei garfan ddydd Mercher.
Ychwanegodd Daniel Farke: "Mae'n un o'n chwaraewyr pwysicaf ni, os nad y chwaraewyr pwysicaf, fo ydy ein capten."