Newyddion S4C

Canfod corff wrth chwilio am ddyn ifanc 17 oed yn y Fenai

29/09/2024
Pier Bangor

Mae corff wedi cael ei ddarganfod wrth chwilio am ddyn ifanc 17 oed aeth i mewn i'r Fenai. 

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y corff wedi cael ei ddarganfod yn ardal y Fenai.

Fe aeth y bachgen i mewn i'r afon ar 20 Medi, ac mae'r heddlu ac aelodau'r cyhoedd wedi bod yn chwilio amdano ers hynny. 

Dywedodd yr Uwcharolygydd Simon Barrasford: "Mae fy meddyliau gyda'r teulu ac mae ein swyddogion yn parhau i ddarparu cefnogaeth iddynt yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cefnogaeth yn ystod yr ymgyrch chwilio."

Mewn neges yn hwyr nos Sadwrn dywedodd Gwylwyr y Glannau Penmon eu bod wedi eu galw i gynorthwyo i ddigwyddiad ger pier Bangor am 15:56 ddydd Sadwrn.

Ychwanegodd llefarydd bod eu meddyliau gyda theulu'r unigolyn fu farw yn ystod y cyfnod trist hwn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.