Holl docynnau Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2025 wedi eu gwerthu o fewn awr
28/09/2024
Mae holl docynnau Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2025 wedi cael eu gwerthu mewn awr yn unig ddydd Sadwrn.
Mae’n un o ŵyliau cerddorol a chelfyddydol mwyaf Cymru ac wedi cael ei chynnal ers dros 20 mlynedd.
Fe aeth tocynnau ar gyfer yr ŵyl ar werth am 10:00 fore Sadwrn, gyda'r holl docynnau wedi eu gwerthu erbyn 11:00.
Inline Tweet: https://twitter.com/GreenManFest/status/1839985402863600004
Roedd hyn yn hanner yr amser a gymerwyd i'r ŵyl werthu allan y llynedd.
Mae'r ŵyl yn croesawu 25,000 o bobl, ac fe fydd yn dychwelyd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o 14 i 17 Awst y flwyddyn nesaf.