Arweinydd Hezbollah wedi marw mewn ymosodiad ar Beirut
Mae Hezbollah wedi cadarnhau marwolaeth eu harweinydd Hassan Nasrallah wedi i Israel ymosod ar Beirut.
Nid oedd Nasrallah wedi cael ei weld yn gyhoeddus am flynyddoedd, a hynny wedi pryderon y byddai'n cael ei ladd gan Israel.
Roedd yn un o'r ffigyrau mwyaf adnabyddus yn y Dwyrain Canol.
Mae Israel wedi bod yn ymosod yn gyson ar Lebanon yn yr wythnosau diwethaf, gan dargedu'r Brifddinas Beirut gyda nifer o ymosodiadau ar 'bencadlys' Hezbollah.
Mewn datganiad, dywedodd Lluoedd Amddiffyn Israel: "Ni fydd modd i Hassan Nasrallah barhau i achosi terfysg yn y byd."
Fe wnaeth Hezbollah addo i barhau yn eu brwydr yn erbyn Israel wedi'r farwolaeth, ac mae Iran wedi bygwth dial am yr ymosodiad hefyd.
Fe fydd y datblygiad diweddaraf yn cynyddu'r tensiynau yn y rhanbarth wedi i wasanaethau cudd Israel gynnal ymgyrch i ymosod yn uniongyrchol ar swyddogion Hezbollah yn Lebanon drwy ffrwydro dyfeisiadau cudd.
Ddydd Gwener, dywedodd swyddogion yn Lebanon fod chwech o bobl wedi eu lladd a 91 wedi eu hanafu mewn ymosodiad awyr, gyda swyddogion lleol yn dweud fod bron i 800 o bobl wedi eu lladd yn sgil ymosodiadau gan Israel yn Lebanon ers dydd Llun.