O leiaf 45 wedi marw wedi i Gorwynt Helene daro de-ddwyrain America
Mae o leiaf 45 o bobl wedi marw a miliynau wedi cael eu gadael heb drydan wedi i Gorwynt Helene daro de-ddwyrain yr Unol Daleithiau.
Dyma'r storm gryfaf ar gofnod i daro gogledd Florida ac fe symudodd i gyfeiriad y gogledd tuag at Georgia a Gogledd a De Carolina yn ddiweddarach.
Mae rhai sefydliadau ariannol yn rhybuddio y gallai y difrod sydd wedi'i achosi gan y storm gostio biliynau o ddoleri.
Cafodd y storm ei chofnodi yn un categori pedwar, ac fe gyrhaeddodd nos Iau gan barhau yn gorwynt am chwe awr.
Dywedodd y Ganolfan Corwynt Cenedlaethol (NHC) fod lefelau uwch o ddŵr wedi eu hachosi gan wyntoedd cryfion wedi cyrraedd mwy na 15 troedfedd uwchlaw lefel y ddaear ar draws rhannau o arfordir Florida.
Rhybuddiodd y ganolfan fod disgwyl i lefelau leihau yn ystod y penwythnos, ond bod posibilrwydd y gallai gwyntoedd cryfion a llifogydd barhau.
Mae hyd at 50cm o law yn parhau yn bosib mewn rhai mannau hefyd.
Oherwydd maint y corwynt, mae effaith y gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm wedi effeithio yn helaeth ar daleithiau Florida, Georgia, Tennessee a Gogledd a De Carolina.
Mae swyddogion wedi rhybuddio y gallai mwy o stormydd fod ar y gorwel, gan mai dim ond ar 30 Tachwedd y mae diwedd swyddogol y tymor corwynt.