Newyddion S4C

'Gwneud i mi deimlo'n sâl': Cwynion am dŷ Airbnb ar stad newydd o dai yn Llandudno

Llandudno

Mae aelod o Senedd Cymru wedi codi pryderon am adroddiadau fod tŷ sydd yn cael ei hysbysebu ar gael i'w rentu i ymwelwyr ar stad newydd o dai, a hithau gyda channoedd o bobl ar restr aros am gartrefi yn ei hetholaeth.

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS, yr aelod Ceidwadol dros Aberconwy, fod pobl leol wedi cwyno am yr eiddo ar stad newydd Parc Bodafon yn Llandudno, sydd yn cael ei hysbysebu ar wefan Airbnb.

Cafodd y stad ei hadeiladu gan gwmni adeiladu Anwyl, ac fe aeth y tai ar y farchnad y llynedd.

Mae'r eiddo penodol dan sylw Ms Finch-Saunders yn cael ei hysbysebu ar wefan Airbnb fel "tŷ pedair llofft newydd sbon dim ond 4 munud o gerdded i ffwrdd o draeth enwog Llandudno", ac yn cynnig llety ar gyfer 12 gwestai ar y tro.

Yng Ngwynedd mae rheolau newydd o dan gyfarwyddyd Erthygl 4 yn golygu bod angen caniatâd cynllunio i newid eiddo i gartref gwyliau o'r fath.

Prinder tai

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd y gwleidydd ei bod wedi ei dychryn yn fawr o weld un o'r adeiladau newydd ym Mharc Bodafon ar gael i'w rentu fel cartref gwyliau mewn cyfnod lle mae prinder tai i deuluoedd.

"Mae'n gwneud i mi deimlo yn sâl, i fod yn onest. Dim ond ddoe y gwnes i gynnal cymhorthfa dai ac mae gennym ni 800 o deuluoedd bellach yn disgwyl am dai. 

"I fod yn onest, dydw i ddim yn deall o gwbl sut y mae modd hysbysebu tŷ pedair llofft ar gyfer 12 o bobl," meddai.

"Y ddadl dros adeiladu'r tai yma ydy oherwydd bod gennym ni brinder tai yng Nghymru. Mae gen i deuluoedd a fyddai'n gallu symud i mewn i'r eiddo yma ac nid yw ei hysbysebu fel hyn yn gwneud dim i helpu'r Gymraeg. 

Ychwanegodd: "Ni ddylai tŷ o'r maint yma gael 12 o ymwelwyr yn dod i aros am ychydig o nosweithiau neu wythnos. Mae fy nhrigolion i sy'n byw yn agos iawn at y safle.

"Mae'n rhaid fod yna rhyw fath o gymal neu reol y mae modd i Lywodraeth Cymru gyflwyno sy'n atal hyn."

'Ergyd fawr'

Er ei gwrthwynebiad, roedd Ms Finch-Saunders yn pwysleisio nad oedd hyn yn golygu ei bod hi'n erbyn ail dai yn gyffredinol.

"Dwi ddim yn erbyn ail dai. Mae gennym ni ail dai yn Aberconwy. Mae pobl yn dod yma, yn edrych ar ôl eu heiddo, yn defnyddio eu siop trin gwallt lleol, y garddwr lleol, ein bwytai, ein bariau - dwi ddim yn erbyn ail dai," meddai.

"Mae'n ergyd fawr pan y mae tai newydd yn cael eu hadeiladu i fynd i'r afael â phrinder tai wedyn yn gallu cael eu hysbysebu ar Airbnb sy'n farchnad heb ei rheoleiddio.

Ychwanegodd: "Mi fydda i'n codi'r mater efo Llywodraeth Cymru yr wythnos nesaf. Mae yna wahaniaeth mawr rhwng ein busnesau tai gwyliau sydd wedi eu rheoleiddio'n llawn ac mae rhai o'r rhain yn mynd i'r wal oherwydd y rheol newydd 182 diwrnod. 

"Rydym ni wedi niweidio un ochr o'r diwydiant twristiaeth a oedd yn gyfreithlon, ond rydym ni'n caniatáu i'r gweithredwyr Airbnb sy'n gweithredu o dan y radar, ac mae'n anghywir."

Gwrthwynebiad

Roedd datblygiad Parc Bodafon wedi wynebu cryn wrthwynebiad yn ystod y broses gynllunio, gan ei fod yn agos i Ysgol y Gogarth ar ffordd Nant y Gamar yng Nghraig y Don.

Cafwyd gwrthwynebiadau'n lleol o achos pryderon am effaith traffig, sŵn a cholli tir gwyrdd i'r datblygiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.