Achosion cyntaf o'r Tafod Glas yng Nghymru ar fferm yng Ngwynedd
Mae achosion o’r feirws Tafod Glas-3 wedi eu canfod yng Nghymru am y tro cyntaf ar fferm yng Ngwynedd.
Cafodd y Tafod Glas seroteip 3 (BTV-3) ei ganfod mewn tair dafad a gafodd eu symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.
Mae ymchwiliadau yn cael eu cynnal ar y fferm sydd wedi’i heffeithio er mwyn penderfynu a oes angen mesurau rheoli ychwanegol.
Daw hyn wedi i amaethwyr gael eu hannog i “gadw golwg” am symptomau’r clefyd yn eu da byw gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine, yn gynharach yn y mis yn dilyn cadarnhad o achosion newydd yn Lloegr.
Mae Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol Cymru Gavin Watkins bellach yn annog ffermwyr i fod yn wyliadwrus am y clefyd ac i brynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.
“Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i atal y clefyd rhag lledaenu o’r tair dafad yma, a’n nod ni o hyd yw cadw Cymru’n rhydd o’r tafod glas.
“Mae’n bwysig siarad ȃ’ch milfeddyg, a phrynu anifeiliaid o ffynonellau diogel er mwyn diogelu ein buchesau a’n heidiau ac atal unrhyw ymledu pellach ar y clefyd allan o Gymru,” meddai.
Symtomau
Mae’r Tafod Glas yn glefyd sy’n cael ei drosglwyddo gan bryfed gwybed sy’n cnoi (‘biting midges’), gan effeithio ar wartheg, geifr, defaid a cheirw yn bennaf, yn ogystal â chamelod fel alpacas a lamas.
Fe allai symptomau o’r clefyd - all droi tafod anifeiliaid yn las - amrywio, gyda rhai anifeiliaid yn dangos ychydig iawn o arwyddion eu bod wedi’i heintio.
Ond fe allai’r clefyd achosi problemau o ran cynhyrchu llaeth neu atgenhedlu, ac yn yr achosion mwyaf difrifol gall arwain at farwolaeth.
Nid yw’r Tafod Glas yn effeithio ar bobl na ddiogelwch bwyd.