Cau rhai unedau ysbytai oherwydd diffyg staff
27/09/2024
Cau rhai unedau ysbytai oherwydd diffyg staff
Fe gafodd Celyn ei eni 11 mis yn ôl gyda syndrom Down, ac mae ei rieni yn gyfarwydd iawn gyda sawl ysbyty adrannau brys yng Nghymru a Lloegr a'r ward leol ar gyfer babanod a phlant Ward Angharad yn Ysbyty Bronglais.
"Mae'r staff yna'n ffantastig. Mae pob un o'n nhw'n wych.
"Maen nhw wedi achub bywyd e fwy nag unwaith.
"Mae'r doctoriaid a'r nyrsys wedi bod yn ffantastig.
"Pawb ar y ward yn wych."
Ond mae pethe'n newid ar Ward Angharad.
Bydd hi'n aros ar agor am 24 awr ond gyda pump gwely yn lle naw a hynny am chwe mis o ddechrau Tachwedd.
Bydd modd i blant gael eu trin yna am ddiwrnod a hanner ond achosion mwy difrifol yn gorfod mynd i Gaerfyrddin.
Yn ôl y Bwrdd Iechyd, diffyg staff a phryder am ddiogelwch yw'r broblem.
"Rhaid cau weithiau yn ddirybudd", medden nhw.
Hefyd, mae dwy nyrs brofiadol ar fin mynd ar gyfnod mamolaeth.
Mae llawer yn dweud dylai'r Bwrdd Iechyd wedi paratoi yn well.
"O fy safbwynt i, dyw hyn ddim yn broblem newydd.
"Mae'r Bwrdd Iechyd 'di cael amser hir iawn i ddelio gyda'r broblem yma erbyn hyn.
"O leia saith mis, wyth mis, maen nhw wedi gwybod am hyn.
"Mae 'di bod yn broblem hirach na hynna."
"Mae'r Bwrdd Iechyd wedi rhoi'r addewid taw dros dro maen nhw'n gorfod symud y gwelyau dros 24 awr i Glangwili.
"Fydd hynny yn dychwelyd i Bronglais ar ôl chwe mis.
"Mae pawb yn becso fydd hwnna ddim yn digwydd mor gyflym â hynny.
"Felly, ni angen dal y Bwrdd Iechyd at eu gair nhw."
Yng nghyfarfod y Bwrdd heddi, fe benderfynwyd hefyd i gau'r gwelyau yn Ysbyty Cymunedol Tregaron er mwyn gofalu am fwy o gleifion yn eu cartrefi a chau dros nos uned man anafiadau Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli am gyfnod o chwe mis.
Problemau staffio eto a siom fawr i'r ddwy gymuned.
"Sdim synnwyr cyffredin iddo fe.
"Fel rhan o'r addo nath y Bwrdd Iechyd neud o gael gwared yr adran ddamweiniau ac achosion brys maen nhw 'di gweud bydd 24/7 care yn yr ysbyty.
"Maen nhw 'di mynd yn erbyn yr addo maen nhw wedi neud yn y gorffennol."
Fe glywodd y Bwrdd yn gyson am y risgiau uchel sy'n wynebu gwasanaethau o ran diogelwch cleifion a lles staff.
Ar ddiwedd y cyfarfod fe ddywedodd cadeirydd y Bwrdd Iechyd, Neil Wooding fod Hywel Dda wedi delio gyda thri mater heriol a dadleuol heddi yn Nhregaron, Llanelli ac yma, yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Ychwanegodd bod y bwrdd yn ymateb yn adweithiol i sefyllfaoedd o risg.
Yn hytrach na chynllunio yn strategol ar eu cyfer.
Mae e'n galw ar y Bwrdd i fod yn fwy strategol ond mae e'n mynnu bod yr heriau staffio yn fawr.
"Ni 'di bod yn gweithio'n galed dros y blwyddyn diwetha, y ddwy flynedd diwetha i osgoi dod i'r sefyllfa hyn.
"Wedi bod yn recriwtio hynny gallwn ni mewn i'r gwasanaethau yma ond mae'r heriau recriwtio 'na yn heriau dwys.
"Wedi cymryd penderfyniad heddi i newid y gwasanaethau i gadw nhw'n ddiogel."
Bydd y newidiadau ym Mronglais a Llanelli yn dechrau ar y cyntaf o Dachwedd am chwe mis a'r pedwar claf sydd yn Ysbyty Tregaron yn gadael pan fydd yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny.