Cyn bennaeth uned gwarchod y teulu brenhinol wedi 'rhybuddio'r palas' am Al Fayed
27/09/2024
Cyn bennaeth uned gwarchod y teulu brenhinol wedi 'rhybuddio'r palas' am Al Fayed
Dyn oedd a phres, dylanwad a grym.
Roedd Mohamed Al-Fayed, cyn-berchennog Harrods i weld yn gyson yng nghwmni aelodau'r teulu brenhinol.
Ond, blwyddyn wedi'w farwolaeth, bellach mae dros 200 o ferched wedi'w gyhuddo o dreisio neu ymosod yn rhywiol.
Yng nghanol y '90au, swydd Dai Davies oedd gwarchod aelodau'r teulu brenhinol.
Nath o gyfarfod ag Al-Fayed yn ei siop foethus.
"Dw i'n cofio bod yn Harrods yn y '90s a gweld o gyda'i dîm.
"Roedd ganddo lawer o security yn cerdded efo fo.
"Daeth i fyny, deud helo a rhoi ei law allan.
"Oedd e mewn siwt smart.
"Dyma fi'n deud helo, wnes i'm deud pwy o'n i.
"Wnes i ysgwyd ei law.
"O'n i'n gwybod 'chydig adeg yna bod ganddo reputation."
Dach chi 'di deud roedd gennych ymwybyddiaeth o'r sïon amdano.
'Reputation', fel dach chi'n ddeud.
Be oedd y sïon amdano?
"Y sïon oedd bod o'n licio merched ifanc oedd yn gweithio'n Harrods a'i fod wedi eu twtsiad inappropriately a sexually."
Yn ystod yr un cyfnod, roedd Al-Fayed yn cael ei ymchwilio gan yr Heddlu o geisio dwyn cynnwys bocs diogelwch yn Harrods gan ŵr busnes arall, Tiny Rowland.
Penderfynodd Dai Davies ddweud wrth y Palas ei fod yn poeni am ymddygiad troseddol posib y dyn busnes ag yntau ar fin mynd ar wyliau gyda'r Dywysoges Diana yn 1997.
"O'n i'n boenus bod o yn cael ei investigateio a bod hi a'r plant yn mynd efo dyn drwg.
"Dyma fi'n deud wrth Syr Robert Fellowes y Private Secretary i'r Frenhines.
"Yr unig beth wnaeth o ddeud oedd, 'Her Majesty is aware, Mr Davies'.
"O'n i'm yn coelio bod o ddim isio siarad fwy."
Mae Dai Davies yn dweud iddo beidio a chodi pryderon am yr honiadau yn ymwneud ag ymddygiad rhywiol gan nad oedd ganddo ddigon o dystiolaeth.
Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae enw Al-Fayed yn deilchion wrth i ragor o ferched ei gyhuddo o'u cam-drin.
Roedd rhai wedi cwyno i'r Heddlu cyn hyn dros y blynyddoedd ond yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron ar y pryd doedd dim digon o dystiolaeth i'w erlyn.
"Dw i ddim yn deall pam na'th y CPS ddim chargio fo.
"Dw i isio gofyn pwy oedd yn gyfrifol?
"Pwy wnaeth weld y dystiolaeth?
"Pan oedd dim digon o evidence i proceedio?
"Mae 'na gwestiynau mawr i ofyn i'r CPS.
"Dw i'n clywed 'there's not enough evidence' yn rhy aml.
"Dw i isio gweld y merched yn cael justice.
"Dio'm ots pa ffordd, gallwn ni ddim jyst gadael hyn i fynd.
"Mae isio rhoi example, dio'm ots pwy ydych chi brenin neu rywun arall os dach chi'n torri'r gyfraith mae isio'u dal i account."
Doedd Palas Buckingham ddim isio gwneud sylw ar y mater.
Dywedodd Heddlu'r Met fod bob un o'r cwynion a gafodd eu gwneud gan y merched wedi'w hymchwilio'n drylwyr ond nad oedd digon o dystiolaeth i'w gyhuddo.
Bydd unrhyw dystiolaeth newydd yn cael ei asesu a'i ymchwilio'n fanwl.
Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron mae nifer y merched sy'n gwneud honiadau o'r newydd yn bryderus.
Ni chafodd unrhyw gyhuddiadau eu gwneud nôl yn 2008 a 2016 gan nad oedd digon o dystiolaeth i sicrhau erlyniad.
Mae'n nhw'n gweithio'n galed i gael darlun cyflawn o'r sefyllfa.
Yn y cyfamser, mae Heddlu'r Met yn apelio ar unrhyw un a gafodd eu cam-drin i gysylltu â nhw.