Newyddion S4C

Cwmni trin dŵr yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â llygru afonydd

Newyddion S4C 27/09/2024
Prif Weithredwr Hydro

Mae prif weithredwr cwmni sydd yn arbenigo mewn trin dŵr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fethu gwneud mwy i fynd i'r afael â llygru afonydd.

Dywedodd Wayne Preece, prif weithredwr cwmni Hydro Industries Ltd, sydd a'i safle fwyaf yn Sir Gâr, ei fod e'n "rhwystredig ofnadwy" nad yw Llywodraeth Cymru wedi trafod na chydweithio gyda nhw na chwmnïau eraill sydd yn cynnig technoleg debyg, er mwyn datrys llygru dŵr.

Dyw Llywodraeth Cymru heb ymateb i sylwadau Mr Preece ond wedi dweud eu bod nhw'n gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i wella ansawdd dwr afonydd Cymru.

Yn Quito, Ecwador, ddydd Gwener, agorwyd safle trin dŵr sydd wedi ei godi gan Hydro yn swyddogol.

Mae'r prosiect, sydd werth miliynau o bunnoedd, wedi'i gefnogi gan Faer y ddinas. Y bwriad yw glanhau 190,000 o dunelli o ddŵr sydd wedi ei heintio gan gladdfa sbwriel ac sydd yn bygwth llygru afon El Ingo y ddinas.

Mae prif weithredwr cwmni Hydro, Wayne Preece, yn dweud y gallai'r dechnoleg sydd yn cael ei ddefnyddio ar y safle yn Ecwador gael ei drosglwyddo yn hawdd i warchod afonydd Cymru.

Dywedodd wrth Newyddion S4C "Mae'r safle ry'n ni'n trin [yma yn Ecwador] yn un o'r gwaethaf allech chi ei ganfod unrhyw le ar draws y byd.

"Mae'r llygredd ry'n ni'n gweld yng Nghymru; boed hynny yn gysylltiedig gyda hen fwyngloddiau - zinc, plwm neu gadmiwm, yn bethau ry'n ni'n gwaredu o'r dŵr yma; neu bethau fel carthffosiaeth yn llifo i afonydd a nentydd - mae [gwaredu] rheiny yn gymharol hawdd.

"Rwy'n annog Llywodraeth Cymru, y rheoleiddwyr, awdurdodau lleol i siarad gyda ni, achos mae'n rhwystredig bod y pethau yma ar ein stepen drws, rwy'n byw yn Abertawe...mae fy nheulu yn mwynhau nofio yn y Mwmbwls...ry'n ni'n gwybod am y gwastraff sydd yn cael ei ryddhau yno.

"Mae'n ofnadwy o rwystredig nad oes unrhyw un yn trafod a chydweithio gyda ni, nad ydyn ni'n gwneud rhagor yng Nghymru.

"Rwy'i am ailadrodd wrth wleidyddion Cymru, plîs trafodwch a chydweithiwch gyda ni, achos allwn ni helpu."

'Effaith ar ein hiechyd'

Wrth gael ei holi ai cost oedd y broblem fwyaf gyda chyflwyno cynlluniau o'r fath yng Nghymru, roedd e eto yn mynegi ei rwystredigaeth:

"Mae cwmnïau eraill tebyg i ni, yn bendant o fewn i'r Deyrnas Unedig...byddai trafod cost gyda ni yn gam cyntaf a dyw hynny heb ddigwydd.

"Mae'n rhaid rhoi arian i'r neilltu i daclo llygredd. Ry'n ni'n adeiladu ffermydd gwynt ar draws y Deyrnas Unedig, yn codi pob math o gynlluniau, ond does bosibl mai'r peth cyntaf sydd angen ei wneud yw rhwystro llygredd achos mae'n effeithio ecoleg ein afonydd...mae'n rhaid amddiffyn yr amgylchedd yn y lle cyntaf."

Mae'r cwmni yn honni iddyn nhw gynnig gweithio yn rhad ac am ddim i lanhau ffosffadau o afon yn sir Fynwy, ond na chafodd y cynnig ei dderbyn.

"Ry'n ni wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Fel arfer [byddwn i'n disgwyl] ymateb i hynny a dydyn ni heb weld gweithredu ar frys i'r cyhoeddiad."

Galw am weithredu cadarnach a chyflymach i fynd i'r afael a llygredd afonydd mae Jenny Lloyd o Gyfeillion y Ddaear Cymru hefyd:

"Nid ar yr amgylchedd yn unig mae hwn [llygredd afonydd] yn effeithio. 

"Mae'n cael effaith ar ein hiechyd a'n lles hefyd. Mae angen i awdurdodau gael arian ac adnddau maen nhw angen er mwyn glanhau afonydd ac amddiffyn yr amgylchedd."

Dyw Llywodraeth Cymru na Chyfoeth Naturiol Cymru heb gynnig ymateb uniongyrchol i sylwadau Hydro na Chyfeillion y Ddaear Cymru.

Yn gynharach y mis hwn, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet Huw Irranca-Davies, sydd yn gyfrifol am newid hinsawdd a materion gwledig, bod y llywodraeth wedi ariannu cynllun i fynd i'r afael a llygredd o hen fwyngloddiau ac yn gweithio gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig i wella safon dŵr afonydd ymhellach.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.