Gwalia United: Clwb sy’n anelu am yr uchelfannau
Gwalia United: Clwb sy’n anelu am yr uchelfannau
Enw newydd i dîm eiconig. Mae gan Gwalia United, neu’r Hen Cardiff City Ladies gynllun uchelgeisiol. Ar y cae, ac oddi ar y cae, eu blaenoriaeth yw llwyddo a chodi statws pêl-droed menywod.
Yn ôl Emily Poole sy’n chwarae yng nghanol cae, “heb Cardiff City Ladies a’r bobl oedd yn rhan o hynny does dim Gwalia United”.
“Da’ ni nawr yn Gwalia United ac mae’n rhaid i ni newid, ma’ rhaid i ni ddatblygu”, meddai.
“Ma’ gêm y dynion yn cal llawer mwy na gêm y merched, felly wrth gwrs ma’ mwy i neud”.
Mae Casi, sy’n 16 mlwydd oed, newydd ymuno a’r clwb eleni. Iddi hi, mae’n gyfle cyffrous i serennu.
“Dwi ‘di bod yn 'whare i garfan o dan 16, 17 a gobeithio allai mynd mlaen i dan 19 Cymru.
"Dwi wedi cael llawer o gyfleoedd, mynd i deithio i gwledydd gwahanol, ond i fi fel chwaraewr ma’n gyfle i ddatblygu ymhellach a gobeithio sgorio mwy o gôls i Gwalia”.
Y drydedd haen yn Lloegr yw cartref Gwalia United, ond ma’r merched yma eisiau gweld hynny yn newid, a gwireddu’r freuddwyd o gyrraedd yr uchelfannau o fewn pum mlynedd.
Yr WSL, neu’r Barclay’s Women’s Super League, yw’r nod hwnnw. O Arsenal, i Chelsea i Manchester City, mae’n llwyfan i rai o dimau pêl-droed merched mwya' poblogaidd y byd.
Ond ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Cheltanham Town nos Iau, a dim ond un fuddugoliaeth y tymor hwn, pa mor realistig felly yw’r freuddwyd?
Yn ôl Rheolwr Cyffredinol newydd y clwb, Trystan Bevan, mae’r uchelgais o gyrraedd y WSL “yn agosach na’ beth ma’ pobl yn meddwl”.
“Ma’ nhw’n chware yn yr adran yn Lloegr sy’n gyfatebol a beth ma Wrecsam yn chware yn League 1”, meddai.
Yn ôl Trystan, “bydde fe ddim yn digwydd blwyddyn hyn, falle ddim blwyddyn ar ôl ‘ny, ond o ran y strategaeth a’r hyder sydd gyda ni, bydde fe yn digwydd”.
Mae’r clwb wastad wedi chwarae o fewn y system yn Lloegr, ac yno maen nhw’n gweld eu dyfodol.
Meddai Trystan: “Yn anffodus ma’r Women’s Super League yn Lloegr, dyna le ma’r arian a’r asbri, felly pe tase ni’n gallu cyrraedd yr WSL, bydd hwnna wedyn yn rhoi ni fel un o dimau proffesiynol mwya llwyddiannus Cymru.”
Mae ail-frandio o Cardiff City Ladies i Gwalia United yn nodi pennod newydd a chyffrous yn hanes y clwb, gyda galw am fwy o glybiau menywod i dorri cwys eu hunain.
Dywedodd cyn-hyfforddwr tîm menywod Cymru, Kath Morgan, “ma’ sefyll ar ben eich hunan yn ddewr ac mae’n risg, ond fi’n credu neith e dalu ffordd yn y pen-draw”.
Yn ôl y cyn amddiffynnwr sydd â 51 o gapiau rhyngwladol, mae gêm y menywod “nawr yn ddeniadol, ma bobl busnes yn gweld bod gap yn y farchnad i neidio fewn i clybiau fel hyn”.
I chwaraewyr fel Emily, byddai cyrraedd yr WSL yn “golygu llawer”.
“Ma cymaint o hanes yn y clwb yma, ma’ chwaraewyr fel Jess Fishlock a Sophie Ingle di chwarae cyn ni, ac i cyrraedd yr WSL dwi’n credu bydd e'n bwysig iawn i llawer o bobl, ac i’r gêm yng Nghymru”.
Prif lun: Emily Poole