Dychwelyd crwban o draeth ar Ynys Môn yn ôl i'r Caribî
Mae crwban prin a gafodd ei ddarganfod ar draeth ar Ynys Môn wedi’i ryddhau yn y Caribî.
Roedd Tonni, a gafodd ei ganfod ar draeth Moel-y-Don ymhlith pump o grwbanod ‘loggerhead’ arall a gafodd eu canfod ar draethau ar hyd a lled y DU.
Y gred yw bod gwyntoedd cryfion wedi achosi i’r crwbanod deithio o foroedd y Caribî neu ddwyrain yr UDA i draethau yng Nghymru, Cernyw a Dyfnaint.
Mae’n debyg y byddan nhw wedi marw heb eu bod wedi eu hachub oherwydd bod môr y DU yn rhy oer iddyn nhw.
Roedd Sŵ Môr Môn ger Brynsiencyn wedi bod yn gofalu am Tonni am yr 20 mis diwethaf.
Dywedodd y perchennog, Frankie Hobro, mai rhyddhau Tonni yn ôl i’r gwyllt oedd y nod “ers y diwrnod cyntaf.”
“’Da ni’n gyffrous a bach yn emosiynol mewn ffordd hapus,” meddai.
'Falch o helpu'
Cafodd pedwar o’r crwbanod, sef Jason, Perran, Gordon a Hayle, eu hachub oddi ar draethau gwahanol yng Nghernyw, ac fe gafodd Holly ei hachub o draeth Putsborough yn Nyfnaint.
Mae’r crwbanod i gyd bellach wedi cael eu rhyddhau yn ôl i’r gwyllt, a hynny gan un o griwiau’r Llynges Frenhinol.
Fe wnaeth HMS Medway o Portsmouth gludo’r crwbanod i ynysoedd yr Azores, sef rhanbarth o Bortiwgal.
Dywedodd Rod Jones, Uwch Gynghorydd dros Ddiogelu’r Amgylchedd Morwrol y Llynges Frenhinol ei fod yn “hynod o falch” o allu helpu’r crwbanod dychwelyd adref.
Ac er nid dyna yw prif rôl y Llynges Frenhinol, mae’r criw yn falch o fod yn rhan o gynorthwyo bywyd y môr, meddai.
Prif lun: Royal Navy/PA Wire